6. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Y BBC yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:12, 13 Gorffennaf 2016

Diolch yn fawr iawn am y cyfle i gyfrannu i’r drafodaeth yma. Rwy’n codi fel cyn aelod o staff y BBC; mae gen i brofiad uniongyrchol helaeth o weithio i’r gorfforaeth yng Nghymru, ac rwy’n gwybod fod BBC Cymru ei hun, wrth gwrs, yn frwd iawn dros wneud rhaglenni i ac am Gymru, ond bach iawn ydy BBC Cymru o fewn cyfundrefn ehangach y BBC drwy Brydain. Mi glywn ni yn aml iawn y geiriau cywir yn cael eu siarad gan benaethiaid y BBC yn Llundain, ac mae’r un yn wir y tro yma efo’r addewid o arian ychwanegol ar gyfer rhaglenni Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru. Ond un peth ydy geiriau, wrth gwrs—peth arall ydy gweithredu, a pheth arall wedyn ydy gweld effaith wirioneddol y gweithredu yna.

Nid wyf yn amau y bydd y BBC yn cadw at yr addewid o roi rhagor o arian ar gyfer rhaglenni Saesneg yng Nghymru; nid ydym yn gwybod faint o arian sydd yna, wrth gwrs, ac mae’n rhaid cofio hefyd y bydd yr arian ychwanegol yna yn dod ar adeg pan fydd disgwyl i’r BBC drwyddo draw wneud arbedion sylweddol iawn, iawn. Felly, ni allwn ganiatáu i’r arian yma fod yn ddim mwy nag arian lliniarol pan, fel rydym wedi glywed yn barod, mae’r gyllideb rhaglenni Saesneg wedi disgyn o bron i chwarter yn barod dros y degawd diwethaf.

I wneud rhaglenni go iawn mae angen cyllidebau go iawn. Wrth gwrs bod yna arbedion y mae’n bosibl eu gwneud, ac mae’n werth llongyfarch S4C yn y fan hyn am lwyddo i wneud arbedion mor rhyfeddol mewn cyfnod anodd yn y blynyddoedd diwethaf; maen nhw wedi llwyddo i wneud rhaglenni rhagorol ar gyllidebau bach iawn. Rwy’n gwybod achos fy mod i wedi cyflwyno llawer ohonynt nhw, ac mae’n dda iawn gweld cynnydd sylweddol wedi ei wneud yn ffigurau cynulleidfaoedd S4C yn ddiweddar ar draws platfformau gwahanol darlledu ym Mhrydain yn y flwyddyn ddiwethaf.

Ond mae llawer o’r llwyddiant yna o ran gwneud rhaglenni da yn rhatach wedi digwydd oherwydd ymrwymiad staff rhagorol i ddarlledu Cymraeg, ond hefyd i’r diwydiant darlledu yng Nghymru. Ond allwn ni ddim parhau i ddisgwyl i’r ymrwymiad yna wneud i fyny am golledion mewn arian. Ni all y gwasgu fod yn ddiddiwedd, ac os ydym am gael rhaglenni efo cynnwys da, sy’n edrych yn dda, sydd â’r gallu i ddenu cynulleidfaoedd, mewn unrhyw iaith, mae angen buddsoddiad.

Mater arall ydy’r rhwystrau ymarferol hefyd, wrth gwrs. Wrth i gyllidebau ddirywio gostwng hefyd mae nifer y slots darlledu sydd wedi bod yng Nghymru ar gyfer rhaglenni neilltuol Cymreig. Felly, yn ogystal â’r arian i gynhyrchu’r rhaglenni mae angen y llwyfan i ddarlledu y rhaglenni hynny. Rwyf wedi sôn yma yn y Siambr yn y gorffennol am 2W a’r ffaith bod yna, bryd hynny, oriau brig helaeth iawn ar gael yn Saesneg yng Nghymru. Mae’r dyddiau yna wedi mynd ond mae’n rhaid dod o hyd i ffyrdd eraill o allu llwyfannu rhaglenni Cymraeg yma.

Mater arall ydy’r pryder ynglŷn â newidiadau i brif fwrdd rheoli y BBC, sydd wedi cael ei grybwyll yn barod lle, fel y clywsom ni gan Lee Waters, mi oedd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu cynrychioli ar y brif haen o reolaeth. Mae o’n gam yn ôl bellach mai un cynrychiolydd sydd yna i’r cenhedloedd a’r rhanbarthau. Mae o’n gwanhau llais Cymru ac rwy’n bryderus iawn am y goblygiadau. Mae o’n gwthio Cymru i’r ymylon, nid oes yna ddim amheuaeth am hynny.

Mae gan y BBC enw, yn anffodus, am fod yn gorff lle mae’r canol yn tra-arglwyddiaethu. Oes, mae yna lawer o ddrama yn cael ei chynhyrchu yng Nghaerdydd. Oes, mae yna dwf wedi bod ym mhresenoldeb y BBC ym Manceinion, ond nid dyna’r cyfan sydd yn bwysig. Mae angen i’r BBC ddatblygu agwedd llawer mwy datganoledig, yn parchu gwahaniaeth o fewn yr ynysoedd yma, yn parchu a grymuso y cenhedloedd. Y canol yn rhannu drama i Gaerdydd ddigwyddodd—hynny ydy rhywbeth economaidd sydd i’w groesawu, wrth reswm, ond mae angen rhywbeth mwy na hynny. Rwy’n chwilio am rywbeth mwy na hynny lle mae’r BBC yn ganolog yn grymuso BBC Cymru er mwyn ei alluogi i wasanaethu ei gynulleidfaoedd.

Rwyf yn dymuno’n dda i’r pwyllgor newydd sydd gennym ni â chyfathrebu rŵan yn ei deitl o. Mae ganddo waith pwysig iawn i’w wneud, ac anodd, mewn sefyllfa lle nad ydy darlledu wedi ei ddatganoli. Mae angen i ni yma—i gloi—drwy adlewyrchu barn y bobl sy’n ein hethol ni, fynnu bod y BBC yng Nghymru wir yn gallu cyrraedd ei botensial o fod yn wir ddarlledwr cenedlaethol Cymreig, achos ar hyn o bryd, er gwaethaf talent ac ymroddiad staff rhagorol, mae o’n disgyn yn fyr iawn o hynny.