Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Nid yw’r ffi’r drwydded yn berffaith, ond mae’n well na dim arall a gynigiodd unrhyw un erioed, oherwydd mae’n gwbl hanfodol fod y BBC yn parhau i fod yn annibynnol oddi ar lywodraethau o bob math, gan mai un o’i swyddogaethau allweddol yw dwyn gwleidyddion a Llywodraeth i gyfrif, ac ni ellir ei lyffetheirio gan y syniad y gallai ffi’r drwydded gael ei thorri am fod y BBC yn mynd ati’n drylwyr i ddatgelu pethau sy’n anffafriol. Yn ddiweddar, gwelwyd risg sylweddol y gallai hynny ddigwydd.
Nid yw pwysigrwydd y BBC fel sefydliad yn ein bywyd cyhoeddus wedi ei bwysleisio’n ddigonol. Mae’r Athro Brian Cox, sydd wedi gwneud mwy i ddealltwriaeth boblogaidd o wyddoniaeth nag unrhyw un arall yn ddiweddar o bosibl, wedi disgrifio’r BBC fel sefydliad cyhoeddus yn gyntaf, a chwmni cyfryngau yn ail, a chytunaf yn llwyr â hynny. Mae’n rhaid i ni ddeall mai’r tair llythyren—BBC—yn ôl pob tebyg yw’r logo a adwaenir orau yn unrhyw le yn y byd, ac ni ddylem geisio dadwneud hynny. Efallai nad ydynt mor effeithiol am werthu brand Cymru ag yr oedd cyrraedd rownd gyn-derfynol cystadleuaeth chwaraeon fawr, ond nid oes amheuaeth fod y ffordd y mae’r BBC yn cyflwyno Cymru i’r byd ehangach ac yn adlewyrchu’n ôl ar ein dealltwriaeth ein hunain o’n Cymreictod ein hunain yn eithriadol o bwysig.
Rwy’n anghytuno gyda Bethan Jenkins ar un mater, sef na allwn esbonio pleidlais i adael yr UE ar sail y ffaith fod yr holl bapurau newydd yn cael eu cyhoeddi yn Llundain, am fod Llundain, ar y cyfan, wedi pleidleisio dros aros, wrth gwrs. Rwy’n credu ei fod yn llawer mwy cymhleth na hynny, ond mae’n sicr yn wir fod y sylw a roddir i Gymru yn fach iawn ac yn eithriadol o wan am fod y rhan fwyaf o bapurau newydd—ac mae llai a llai o bobl yn darllen papurau newydd—yn cael eu cynhyrchu yn Llundain. Felly, dyna pam ei bod ddwywaith mor bwysig i ni gael elfen ddarlledu gref iawn yng Nghymru er mwyn galluogi pobl i ddeall y byd rydym yn byw ynddo a’r wleidyddiaeth y gweithredwn o’i mewn.
Yn y dyddiau cyn Deddf Darlledu 1990, rhaid i ni gofio bod gofyn i gwmnïau ITV hefyd sicrhau cynnwys rhanbarthol, ac roedd hynny’n helpu i gynnal y modd egnïol a thrylwyr yr âi’r BBC i’r afael â’i rwymedigaethau. Ers diflaniad y cwmnïau ITV rhanbarthol dan doriadau Mrs Thatcher, mae gennym ITV hollol wan yn rhanbarthol, ac mae wedi caniatáu i gynnwys radio a theledu’r BBC wywo yn ei sgil. Mae bron yn syndod eu bod yn llwyddo i wneud cymaint ag y maent yn ei wneud gyda’r ychydig sydd ganddynt, ond mae cael teledu a radio yn gwbl hanfodol i’r drafodaeth gyhoeddus ynglŷn â’r hyn sy’n creu ein byd cyhoeddus, oherwydd gyda 25 y cant o’n poblogaeth yn anllythrennog yn ymarferol, dyna’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu gwybodaeth am y byd a’u dealltwriaeth ohono. Ac mae’n beryglus iawn pan fyddwn yn ymgyrchu ac yn gwrando ar bobl yn dweud wrthym, ‘Nid ydym yn pleidleisio Llafur rhagor oherwydd y toriadau rydych wedi eu gwneud i’r anabl.’ Mae’n mynd â’ch gwynt, ond dyna lefel y gamddealltwriaeth ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn y byd, a phwy sy’n gwneud penderfyniadau ar ran pobl, a aeth â ni i ble’r oeddem gyda’r refferendwm.
Darparodd y BBC wefan ardderchog i geisio dadelfennu honiadau a gwrth-honiadau timau’r ymgyrch dros adael yr UE a’r ymgyrch dros aros, ond rwy’n amau’n fawr a lwyddodd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn ei chael yn anodd deall yr hyn roedd y refferendwm cymhleth hwn yn ymwneud ag ef i gyrraedd yno byth, a byddai wedi bod yn well o lawer pe baem wedi mynd i’r afael â rhywfaint o’r ysgogiadau croes i reswm a wnaeth i bobl bleidleisio dros adael, yn bennaf y bobl a oedd yn byw mewn ardaloedd heb lawer iawn o fewnfudwyr, ac eto ysgogwyd pobl i bleidleisio dros adael ar y sail ei fod yn mynd i roi diwedd ar fewnfudo. Byddai yna ddigon o raglenni wedi gallu archwilio’r gwrthddywediad hwnnw, ac efallai y byddai wedi galluogi pobl i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn a oedd yn y fantol.
Ond rwy’n credu bod rhaid i ni fynd yn ôl at y ffaith fod yn rhaid cadw rôl Reithaidd y BBC i hysbysu, addysgu a diddanu yn unedig, ac ni allwn adael i’r BBC gael ei ddarnio i wneud rhaglenni difrifol a pheidio â gwneud rhai poblogaidd. Felly, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol y dylai’r bwrdd newydd hwn, at ei gilydd, gael ei wneud drwy broses benodiadau cyhoeddus. Rwy’n deall y bydd angen i Lywodraeth benodi cadeirydd, ond mae angen i weddill y bwrdd, gan gynnwys cynrychiolydd Cymru, gael eu penodi drwy’r broses benodiadau cyhoeddus.