8. 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a Chefnogi'r Lluoedd Arfog

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:47, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i fy mhlaid am gyflwyno’r ddadl hon heddiw ac am beidio â bod ofn cyflwyno tri phwynt cyntaf y cynnig hwn? Oherwydd nid pethau y mae pawb yn gytûn yn eu cylch neu wasgu dwylo sentimental yw’r pwyntiau hyn. Mae colli bywyd ar y raddfa hon yn annirnadwy ac yn afresymol, gyda chanlyniadau i bob cymuned. Maent yn ein hatgoffa, fel pe baem angen ein hatgoffa yr wythnos hon pan gyhoeddwyd adroddiad ymchwiliad Chilcott, fod yn rhaid i benderfyniad unrhyw wladwriaeth i fynd i ryfel fod yn seiliedig ar dystiolaeth wirioneddol gadarn. Maent yn ein hatgoffa bod rhannau eraill o’r byd yn dal i ddioddef hil-laddiad. Ac maent yn ein hatgoffa i gael ychydig o bersbectif ar ddigwyddiadau’r mis diwethaf.

Mae persbectif, wrth gwrs, yn un o roddion mawr archifo a dehongli a gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn ffafriol ar gynigion y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer amgueddfa filwrol aml-safle ar gyfer Cymru lle y gallwn fyfyrio ar ryfel a heddwch a lle pobl Cymru yn y ddau.

Hoffwn grybwyll un neu ddau o faterion ymarferol ynglŷn â phwynt 4 y cynnig hefyd, gan nad oes gennyf amheuaeth y bydd pob Aelod o’r Cynulliad hwn yn ddiffuant yn eu hawydd i gydnabod eu gwasanaeth i’r wlad hon a gwledydd eraill, a’n dymuniad i gydnabod hynny drwy flaenoriaethu a diwallu anghenion pob aelod o’r lluoedd arfog.

Er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn credu y gallai Llywodraeth Cymru fynd yn llawer pellach nag y maent wedi mynd i ddiwallu’r anghenion hynny, rydym yn cydnabod y gefnogaeth a ddarparwyd hyd yn hyn ac rwy’n eithaf siŵr y gallai Ysgrifennydd y Cabinet, ac Aelodau eraill efallai, pe bai mwy ohonynt yma, dynnu rhywfaint o sylw at hynny. Ond gobeithiaf y bydd y rheini hefyd yn cydnabod bod yna ffordd bell i fynd hefyd, a bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i alw am gomisiynydd y lluoedd arfog a chyn-filwyr tan i ni gael un. Waeth pa mor ardderchog yw’r gwasanaethau sydd ar gael, ym mha sector bynnag, nid ydynt wedi eu hintegreiddio’n dda o reidrwydd nac yn hawdd dod o hyd iddynt chwaith. Yn achos Llywodraeth Cymru, rwy’n meddwl unwaith eto mai mater o fonitro a gwerthuso gwael yw hynny’n rhannol.

Nawr, rwy’n disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet ddadlau yn erbyn yr angen am gomisiynydd gan fod gan awdurdodau lleol—pob un o ohonynt—hyrwyddwyr y lluoedd arfog. Wel, efallai bod—ond pa mor hygyrch ydynt? Mae wedi bod fel un o raglenni ‘Sherlock’ yn fy swyddfa y bore yma. Er i ni ganfod yn y diwedd pwy sydd â’r cyfrifoldeb am hyn yng nghyngor Abertawe drwy fynd drwy gyfres o gysylltiadau yn ymwneud â chynghorwyr, rydym yn dal yn y niwl o ran pwy sydd â’r cyfrifoldeb ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er ein bod wedi dod ar draws pdf o adroddiad i’r aelodau ar yr hyrwyddwr yn 2013.

Nid oes unrhyw beth am hyn sy’n reddfol neu’n canolbwyntio ar y cleient, nid oes dim yn rhagweithiol amdano, ac nid oes unrhyw un yn cael ei ddwyn i gyfrif am hyn. Byddai comisiynydd yn helpu Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ei gwaith caled yn y maes yn sicrhau canlyniadau. A dyna’r cyfan rydym ei eisiau. Rwyf ei eisiau nid yn unig ar gyfer aelodau o’r lluoedd arfog yn y gorffennol ac ar hyn o bryd, ond i’w teuluoedd hefyd, gan na fydd pob cyn-filwr yn mynd drwy’r profiadau eithafol y byddwn yn clywed ychydig rhagor amdanynt heddiw, ond nid yw’r rhai sy’n mynd drwyddynt bob amser yn gwneud hynny ar eu pen eu hunain; effeithir ar aelodau o’u teuluoedd hefyd. Yn fy marn i, mae yna ddyletswydd i wneud yn siŵr fod aelodau o’r teulu agos, sy’n aml yn dod yn ofalwyr, yn cael eu cefnogi’n briodol hefyd. Oherwydd yn aml yr aelodau teuluol hynny sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb am geisio dod o hyd i help, sy’n edrych ar wefannau cynghorau ac sydd heb dreulio digon o amser ar eu X-Box i gael y sgiliau i allu dilyn y llwybr dyrys i gael y wybodaeth honno. Os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet, gwnewch hi’n haws iddynt. Helpwch hwy a helpwch y sawl sy’n gadael y lluoedd arfog i ymdopi â throsglwyddo yn ôl i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog. Rwy’n gwybod bod gennych yr ewyllys i wneud hynny, ond mae’r ystadegau ar gyfer cyn-filwyr sy’n ddi-waith, sydd wedi dioddef cam-drin sylweddau, sy’n dueddol i gael problemau iechyd meddwl—nid anhwylder straen wedi trawma yn unig—ac sy’n mynd yn ddigartref yn peri pryder mawr.

Ar gyfer bron bob un o’r unigolion hynny, bydd yna deuluoedd mewn trafferthion ac aelodau o’r teulu nad ydynt yn galw eu hunain yn ofalwyr. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, pe baech yn cadarnhau heddiw y byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Llywodraeth i edrych ar y strategaeth ofalwyr ac yn gwerthuso, yn gyntaf, pa mor dda y mae’n ateb ac yn blaenoriaethu anghenion y rheini sy’n gofalu am gyn-filwyr, ac yn ail, cyn-filwyr sydd eu hunain yn ofalwyr.

Peth o’r data mwyaf digalon sydd gennym ynglŷn â chyn-filwyr—ac mae’n ymwneud â chyn-filwyr yn arbennig—yw’r niferoedd sy’n mynd i garchar a’r effaith y mae’n ei chael arnynt hwy a’u teuluoedd. Dychwelyd i deulu sefydlog yw’r prif ffactor o ran gobaith cyn-droseddwr o osgoi atgwympo a’r gwendidau a grybwyllais. Felly, a gaf fi argymell adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar blant yr effeithir arnynt gan garchariad rhiant i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gan y bydd llawer o’i ganfyddiadau yn helpu Llywodraeth Cymru i gynorthwyo cyn-droseddwyr sy’n gyn-filwyr a’u teuluoedd i gadw’r sefydlogrwydd hwnnw? Diolch.