Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 13 Medi 2016.
Oes, gallaf gadarnhau, mis nesaf, y byddwn yn lansio ymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwladol i amlygu Cymru fel lle gwych i hyfforddi, gweithio a byw ynddo, a bydd yr Ysgrifennydd yn amlinellu’r ymgyrch yn ei ddatganiad yr wythnos nesaf. Bydd yn newid sylweddol i’r ffordd yr ydym ni’n marchnata Cymru i gynorthwyo’r gwaith o recriwtio meddygon a meddygon teulu.