<p>Yr Argyfwng Meddygon Teulu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 13 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:33, 13 Medi 2016

Mae cymunedau Porthmadog, y Drenewydd, Aberteifi, Dinbych-y-pysgod, Penfro a Doc Penfro, sy’n gorfod aros pythefnos y dyddiau yma am apwyntiad gyda’r meddyg teulu, yn teimlo bod yna argyfwng, ac yn teimlo bod diffyg recriwtio a diffyg meddygon teulu sy’n fodlon aros yn y cylch. Yn arbennig, mae diffyg yn y nifer sydd am fod yn bartneriaid mewn meddygfeydd. Felly, beth yn ychwanegol y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i recriwtio meddygon teulu, ond, hefyd, beth yw dyfodol y feddygfa breifat fel rhan o’r gwasanaeth iechyd ar gyfer gofal sylfaenol?