Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 13 Medi 2016.
Wel, mae'n ddrwg gen i ddweud ei bod yn ymddangos bod gan y Prif Weinidog olwg sydd braidd yn statig ar ei swyddogaethau fel Prif Weinidog. Pam nad ydym ni’n cymryd golwg fwy deinamig ar y prosiectau hyn? Mae gwledydd eraill yn gwneud hynny ac maen nhw’n gallu gweld y manteision o godi ein dyheadau. Mae hon yn gyfres hir o brosiectau y mae'r Llywodraeth wedi tywallt dŵr oer am eu pennau: gwelliannau i’r M4, Cylchffordd Cymru, a nawr y cais am Gemau'r Gymanwlad. Mae'r rhain i gyd yn brosiectau sy'n rhy anodd, yn rhy galed. Rhowch nhw o'r neilltu. Yn y pen draw—gwneud dim. Wel, nid yw'n ddigon da cael gweinyddiaeth gwneud dim yma ym Mae Caerdydd.