1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 13 Medi 2016.
Mae cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac, yn gyntaf, arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd.
The First Minister and I will be able to agree on one thing at least—in congratulating Wales’s athletes on their performance in the Olympic Games and having won so many gold medals. I don’t expect him to agree with me though that he and his administration should get the wooden spoon for pouring cold water on Wales’s chances of hosting the bid for the Commonwealth Games here in 2026.
Wel, tua £1.5 biliwn yw’r gost gysylltiedig. Ar hyn o bryd, mae honno'n gost a fyddai'n golygu na fyddai dim arian i gefnogi digwyddiadau mawr am y degawd nesaf yng Nghymru, fwy neu lai. Roedd yr Albanwyr yn gallu cynnal y gemau am bris rhatach gan nad oedd rhaid iddynt adeiladu cymaint ag y byddai'n rhaid i ni ei adeiladu. Byddai'n rhaid i ni adeiladu stadiwm athletau newydd, adeiladu felodrom newydd, adeiladu pwll nofio newydd neu ymestyn y pwll sydd gennym ni ar hyn o bryd. Felly, mae'r costau cyfalaf yn enfawr mewn gwirionedd, a dyna pam, wrth gwrs, y mae'n ei gwneud yn anodd iawn i Gemau'r Gymanwlad fynd i wledydd llai y dyddiau hyn. Yr hyn yr oeddem ni ei eisiau oedd cyflwyno cais Cymru gyfan—ni edrychwyd ar hynny’n ffafriol—neu yn wir lansio cais ar y cyd â dinasoedd yn Lloegr. Ond, unwaith eto, nid yw hynny'n bosibl o dan y rheolau presennol sy'n gweithredu gyda cheisiadau Gemau'r Gymanwlad. Yr hyn a fyddai'n well gen i ei weld yn y dyfodol fyddai archwilio ffyrdd y gallem ni wneud cais gyda gwledydd eraill y Gymanwlad i gynnal y gemau.
Wel, rwy’n derbyn, wrth gwrs, y pwynt am gostau cyfalaf gwella seilwaith Cymru, ond mae hynny'n gyfiawnadwy ynddo’i hun. Rydym ni’n sôn yma, yn ôl pob tebyg, am oddeutu £1 biliwn i £1.5 biliwn wedi’i amorteiddio dros 10 mlynedd yn y lle cyntaf. Yng nghyd-destun cyllideb Llywodraeth Cymru o £15 biliwn y flwyddyn, rydym ni’n sôn am geiniog a dimau. [Torri ar draws.] Yr hyn yr wyf yn gofyn i'r Prif Weinidog ei wneud yw codi ei fryd a gwella ei berfformiad a hyrwyddo Cymru i'r byd trwy gampau ein hathletwyr. A'r hyn sydd ei angen arnom ni yw gweithredu gan ein Llywodraeth i fod cystal â hynny o ran gwella seilwaith chwaraeon Cymru fel y gallwn gynnal y gemau yn 2026.
Nid wyf yn credu bod 10 y cant o'n cyllideb yn geiniog a dimau, gyda pharch i’r Aelod. Ceir cost cyfle sylweddol. Er enghraifft, rydym ni wedi bod yn hynod lwyddiannus dros nifer o flynyddoedd o ran denu digwyddiadau mawr i Gymru. Mae gennym ni rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn dod y flwyddyn nesaf a rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y menywod, rydym ni wedi cael Cwpan Ryder, mae gennym ni’r speedway bob blwyddyn, rydym ni wedi cael Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair, cwpan y byd rygbi'r undeb, rydym ni wedi cael gemau criced mawr rhyngwladol—a chaiff hyn oll ei wneud gydag arian. Ni fyddai’r arian hwnnw ar gael mwyach ar gyfer unrhyw un o'r digwyddiadau hynny pe byddem yn cynnal Gemau'r Gymanwlad.
Mae'n llawer gwell, yn fy marn i, ein bod ni’n defnyddio'r arian hwnnw i ddenu digwyddiadau fel y rheini. Mae rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, er enghraifft, yn ffordd hynod ddefnyddiol o hyrwyddo Cymru. Dyma ddigwyddiad chwaraeon unigol mwyaf y byd. Pe byddem ni’n gwneud cais am Gemau'r Gymanwlad, ni fyddai’r arian yno i ddenu digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.
Wel, mae'n ddrwg gen i ddweud ei bod yn ymddangos bod gan y Prif Weinidog olwg sydd braidd yn statig ar ei swyddogaethau fel Prif Weinidog. Pam nad ydym ni’n cymryd golwg fwy deinamig ar y prosiectau hyn? Mae gwledydd eraill yn gwneud hynny ac maen nhw’n gallu gweld y manteision o godi ein dyheadau. Mae hon yn gyfres hir o brosiectau y mae'r Llywodraeth wedi tywallt dŵr oer am eu pennau: gwelliannau i’r M4, Cylchffordd Cymru, a nawr y cais am Gemau'r Gymanwlad. Mae'r rhain i gyd yn brosiectau sy'n rhy anodd, yn rhy galed. Rhowch nhw o'r neilltu. Yn y pen draw—gwneud dim. Wel, nid yw'n ddigon da cael gweinyddiaeth gwneud dim yma ym Mae Caerdydd.
Wel, mae’n ymddangos bod gan yr Aelod gamargraff fawr o ran arian, os caf i ddweud, gan y byddai wedi golygu ymrwymiad ariannol sylweddol a byddai wedi golygu na fyddem wedi gallu cynnal llawer iawn o ddigwyddiadau yn y dyfodol. Byddai'n cael sgil effaith ar ein cyllidebau cyfalaf. Mae'n llawer gwell edrych ar fuddsoddi mewn chwaraeon llawr gwlad, ie—trwy adeiladu seilwaith, mae cymaint â hynny’n wir. Mae angen i ni, er enghraifft, edrych ar felodrom â seddi, nad oes gennym ni. Mae angen i ni edrych ar y pwll nofio cenedlaethol—nid oes ganddo seddi. Mae gennym bwll plymio y mae angen ei wella yn y dyfodol. Ond mae'r costau y mae ef yn sôn amdanynt yn enfawr. O’r safbwynt yr ydym ni wedi ei gymryd, rydym ni wedi ystyried yr holl ddewisiadau ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, wedi ystyried cynnal y gemau gyda rhywun arall, ac nid oedd y dewisiadau hynny ar gael i ni. Mae'n llawer gwell, felly, ein bod ni’n gallu defnyddio'r arian hwnnw ar gyfer digwyddiadau fel rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, a fydd yn darlledu Cymru i gynulleidfa enfawr o gwmpas y byd.
Arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, bydd y telerau y byddwn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd yn unol â nhw yn diffinio dyfodol economi Cymru a holl wleidyddiaeth Cymru yn wir. Rydych chi wedi dweud y dylai Cymru gael feto os nad yw'r cytundeb Brexit yn un da i Gymru. Nawr, mae'n un peth i alw am feto, ond yr hyn y mae angen i ni ei weld nawr yw gweledigaeth, ac mae pobl yn disgwyl bod gennych chi’r weledigaeth gynhwysfawr, fanwl sy’n ysbrydoli o ran sut y bydd Cymru yn edrych ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw ymladd am yr hyn sydd gennym ni eisoes o ran cyllid yn ddigonol, gan y byddai hynny yn darparu’r isafswm yn unig, ac nid yw’n ddigon da. Pryd, Brif Weinidog, allwn ni ddisgwyl clywed eich gweledigaeth o ran sut y bydd Cymru newydd yn edrych ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, neu efallai nad oes gennych chi un?
Wel, bydd yn Gymru, wrth gwrs, sy’n dal i fod yn rhan bwysig o Ewrop, Cymru sy'n edrych tuag allan ac yn parhau i fod yn llwyddiannus o ran denu buddsoddiad. Dyna'r neges a roddais i i'r Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf. O’m safbwynt i, mae'n hynod bwysig bod gennym ni fynediad di-dariff at y farchnad nwyddau a gwasanaethau. Ni fyddai'n fanteisiol i ni pe byddai tariffau yn cael eu gosod. Ydym, yn unol â'r addewid a wnaed gan y rhai yn Llywodraeth y DU nawr, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr na fydd Cymru yn colli’r un geiniog; mae cymaint â hynny’n wir. Yr hyn y mae angen ei harchwilio nawr yw pa fath o fodel sydd ei angen arnom: ai model yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, ai model Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop, ai model tollau-undeb, ai model cytundeb masnach rydd? Dyna'r pedwar model sy'n cynnig mynediad rhannol o leiaf i’r farchnad sengl. Nid yw'r model Sefydliad Masnach y Byd yn gweithio, yn fy marn i, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Ond mae angen i ni ddeall, yn gyntaf oll, pa un a fydd Llywodraeth y DU yn cadw at ei hymrwymiad y bydd y Llywodraethau datganoledig wrth galon y trafodaethau, ac nid ar ddiwedd y trafodaethau. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU ei hun benderfynu ar beth y mae ei eisiau. Mae wedi sôn am gytundeb wedi’i deilwra; iawn, ond beth yw elfennau'r cytundeb hwnnw y mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried yn hanfodol? I mi, mae cyllid a mynediad at y farchnad sengl yn hanfodol. Hebddynt, nid oes amheuaeth y byddai Cymru yn dioddef. Mae angen archwilio’r hyn y mae'n ei olygu i ryddid i symud cyn belled ag y mae pobl yn y cwestiwn. Rydym ni’n gwybod bod llawer iawn o bobl wedi pleidleisio i adael oherwydd y mater hwnnw, ac mae angen ymdrin ag ef yn ofalus o ran barn y cyhoedd. Y camau nesaf yw: cafodd is-bwyllgor y Cabinet gyfarfod ddoe i ystyried yr heriau cychwynnol y mae Brexit yn eu cyflwyno, a bydd y grŵp cynghori allanol yr wyf yn ei sefydlu yn cyfarfod ar ddiwedd y mis.
Brif Weinidog, nid gweledigaeth yw honno. Rydych chi wedi amlinellu'r camau nesaf, rydych chi wedi amlinellu'r hyn yr hoffech chi weld Prif Weinidog y DU yn ei wneud, ond nid ydych chi wedi dweud wrthym beth yr hoffech chi ei weld ar gyfer Cymru. Nawr, cafwyd negeseuon cymysg gan eich arweinydd yn y DU ar y cwestiwn hwn o aelodaeth o’r farchnad sengl, ac nid yw eich datganiadau chi eich hun wedi bod yn llawer mwy eglur ychwaith. Rydych chi wedi galw am fynediad rhydd at farchnad sengl Ewrop, rydych chi hefyd wedi dweud eich bod chi eisiau mynediad di-dor, ac yr wythnos diwethaf, dywedasoch eich bod eisiau gweld moratoriwm saith mlynedd ar symudiad rhydd pobl. Wel, roeddwn i ym Mrwsel yr wythnos diwethaf gyda nifer o aelodau o fy nhîm, ac fe'i gwnaed yn gwbl eglur i ni na allwch chi gael mynediad rhydd llawn heb dderbyn symudiad rhydd pobl. Nawr, gall mynediad gynnwys pob math o gostau, gan gynnwys tariffau—ac rydym ni wedi clywed heddiw sut y byddai hynny'n ddrwg i ddur—gallai olygu costau tollau, a byddai pob un o’r rhain yn groes i les gorau Cymru. Brif Weinidog, a ydych chi’n credu y dylai Cymru aros yn aelod o'r farchnad sengl pan fyddwn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd?
Ydw; rwyf wedi dweud hynny droeon.
Diolch i chi am yr eglurder ar y pwynt hwnnw, Brif Weinidog. [Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi wrth-ddweud y safbwynt hwnnw yr wythnos diwethaf. Felly, o’r diwedd, mae gennym ni eglurder ac rwy'n ddiolchgar i chi am hynny.
Neithiwr, pleidleisiodd eich ASau Llafur—ASau Llafur Cymru—yn erbyn awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. Roedd y gwelliannau y pleidleisiodd Llafur yn eu herbyn yn dod o’ch llywodraeth a’ch cyfreithiau eich hun yn y Bil Cymru drafft. Ac nid dyna'r tro cyntaf y mae wedi digwydd. Pan wnaethant bleidleisio yn erbyn Plaid Cymru yn ôl ym mis Gorffennaf, dywedasoch mai mater o amseru oedd y broblem yr adeg honno, ac nid mater o egwyddor. Pam na allwch chi ddylanwadu ar eich cydweithwyr yn San Steffan, Brif Weinidog?
Wel, dau beth: yn gyntaf oll, mae’n debyg fy mod wedi colli cyfrif o sawl gwaith yr wyf wedi dweud bod mynediad at y farchnad sengl yn hynod bwysig i Gymru a bod rhaid iddo fod yn ddi-dor. Felly, i arweinydd yr wrthblaid—
Mynediad nid aelodaeth. Gofynnais i chi am aelodaeth.
[Yn parhau.]—ddweud, rywsut, bod hyn yn newydd, mae'n amlwg nad yw hi wedi bod yn dilyn y cyfryngau nac yn darllen y papurau dros y ddau neu dri mis diwethaf. Felly, mae mynediad at y farchnad sengl, ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, ar sail ddi-dariff yn gwbl hanfodol. Rwyf wedi bod yn dweud hynny drosodd a throsodd. Yn ail, wrth gwrs, mater i San Steffan yw’r hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Rydym ni wedi cymryd y safbwynt bod awdurdodaeth ar wahân, o leiaf, yn hynod bwysig a, heb yr awdurdodaeth ar wahân honno, ni ellir cael setliad datganoli sy'n para i Gymru.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, roeddech chi yn America yn hyrwyddo'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i fusnesau sy'n awyddus i fuddsoddi yn y DU, ac mae Cymru yn amlwg eisiau cael cyfran fawr o’r gacen honno. Ar ddiwedd yr ymweliad, gwnaethoch ddewis defnyddio araith i siarad am chwalu’r Deyrnas Unedig. Roedd yn ymddangos braidd yn rhyfedd, pan eich bod chi’n ceisio hyrwyddo'r cynnyrch i entrepreneuriaid sydd eisiau buddsoddi cannoedd o filiynau o ddoleri yn y DU—gydag ychydig o lwc—eich bod chi, ar y dydd Gwener, yn cynnig darlun llwm o ragolygon y Deyrnas Unedig. A allwch chi esbonio pam y gwnaethoch chi ddefnyddio taith fasnach fel llwyfan i drafod chwalu’r Deyrnas Unedig?
Yr hyn na ddywedais i, wrth gwrs, oedd bod y rhai ym myd busnes yn chwaraewyr golff tew a diog, sy’n un o themâu ei blaid ef ar hyn o bryd, y blaid fusnes. Allech chi ddim creu’r fath beth, allech chi? Dyna’r hyn a ddywedodd un o’r prif ymgyrchwyr dros Brexit. Tybed a yw ef wedi darllen fy araith mewn gwirionedd, gan i mi ei gwneud yn hynod eglur bod heriau cyn belled ag y bo Brexit yn y cwestiwn ac amlinellais ffordd ymlaen gyda'r heriau hynny. Dywedais hefyd ei bod yn hynod bwysig bod pensaernïaeth y DU yn cael ei harchwilio er mwyn sicrhau bod y DU yn gadarn ar ôl Brexit ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf wedi ei ddweud lawer, lawer gwaith. Roedd gan y gynulleidfa ddiddordeb aruthrol yn hynny.
Brif Weinidog, roedd yn ymddangos yn eglur fel eich bod yn breuddwydio eto am chwalu’r Deyrnas Unedig, sydd yn rhywbeth yr ydych chi’n treulio llawer o amser yn siarad amdano y dyddiau hyn, ac fel unrhyw un sy'n mynd o flaen entrepreneur fel yn ‘Dragon’s Den’ dydych chi ddim yn beirniadu’r cynnyrch yr ydych chi’n ceisio ei werthu iddyn nhw, Brif Weinidog. Ond un peth y gallech chi fod wedi ei wneud ar eich cenhadaeth fasnach fyddai mynd draw i Detroit a siarad ym mhencadlys Ford gyda'r cyfarwyddwyr yno a'r uwch dîm rheoli am y cyhoeddiad a wnaethpwyd yr wythnos diwethaf am leihau cynhyrchiant yng nghyfleuster injans Pen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n credu y dylem ni gofio bod gwerth £100 miliwn o fuddsoddiad yn mynd i mewn i'r cyfleuster injans o hyd, ond mae hwn yn gyhoeddiad arwyddocaol ar ran Ford o ran sut y maen nhw’n mynd i fwrw ymlaen â'r ddeinameg yn y gwaith hwnnw. A wnaethoch chi ofyn am gyfarfod gyda Ford, ac os gwnaethoch chi ofyn am y cyfarfod hwnnw, pam na chawsoch chi gyfarfod?
Do, fe wnaethom ni gais am gyfarfod ond dywedwyd wrthym mai mater i Ford yn Ewrop oedd hwn erbyn hyn ac y dylai'r cyfarfod fod gyda nhw. Felly, gwnaethpwyd y cais i gael cyfarfod gyda nhw.
O ran y sylw a wnaeth yn gynharach: mae'n eithaf amlwg nad yw wedi darllen fy araith, onid yw, yn Chicago? Yn amlwg, y cwbl y mae wedi ei wneud yw ymateb i—. Pan ddywedodd, 'Rhoesoch yr argraff eich bod wedi dweud rhywbeth penodol', mae hynny’n god ar gyfer, 'O, nid wyf wedi darllen yr araith. Rwyf wedi ei gymryd o'r hyn yr wyf i wedi ei weld ar-lein. 'Wel, a gaf i awgrymu ei fod yn darllen yr araith? Fe’i darllenwyd gyda chryn ddiddordeb gan bobl a oedd yno a bydd yn gweld nad yw’n union yr hyn y mae'n awgrymu yr oedd. Fel yntau, rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod y DU yn aros yn gyflawn yn y dyfodol, ond bydd angen newidiadau. Ni all barhau fel y mae pan fo cymaint o newidiadau a fydd yn dod yn ddiweddarach pan fyddwn ni’n gadael yr UE. Pan siaradais â busnesau yn America, roedd pob un ohonyn nhw eisiau gwybod beth fydd yn digwydd nesaf gyda Brexit—pob un ohonyn nhw. Hon oedd y thema cyn belled ag yr oedd buddsoddwyr America yn y cwestiwn. Pan roeddwn i’n gallu dweud wrthyn nhw mai fy marn i oedd ei bod hi'n hynod bwysig bod gennym ni fynediad at y farchnad sengl ar sail ddi-dariff, roedd yn sicr yn rhyddhad iddyn nhw. Roedden nhw’n falch o glywed hynny gan nad oedden nhw wedi ei glywed gan Lywodraeth y DU. Felly, mae'n hynod bwysig bod Llywodraeth y DU yn gwneud yn siŵr nawr bod ganddi safbwynt cydlynol yn hytrach na lansio, fel y gwelsom yr Ysgrifennydd Tramor yn ei wneud yr wythnos hon, grŵp pwyso sy’n rhoi pwysau ar ei Brif Weinidog ei hun i wneud rhywbeth. Mae angen i ni weld cydlyniad ac undod yn Llywodraeth y DU er lles pobl Prydain.
Brif Weinidog, rwy’n gresynu’r ffaith nad oedd Ford yn Detroit yn barod i gyfarfod â chi, oherwydd, fel y deallaf, dyna lle gwnaed y penderfyniad am y buddsoddiad ac mae’n ymddangos eu bod wedi pasio’r bêl yn ôl i Ford Ewrop ar y mater hwn. Ond ceir tri chwestiwn dilys iawn yr wyf yn gobeithio bod eich Llywodraeth a chi eich hun fel Prif Weinidog wedi bod yn rhyngweithio gyda Ford arnynt, sef: sut, yn y dyfodol, y gellir diogelu’r swyddi gyda thoriad mor sylweddol i gynhyrchiant yn y ffatri? Hefyd, pa gynhyrchion newydd, o bosibl, allai ddod i'r ffatri i ddiogelu'r 1,850 o swyddi sydd ar y safle ar hyn o bryd? Ac mae'n deg i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian ar y bwrdd i gadw swyddi yn y ffatri injans, ar lefel o 850 o swyddi, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Yn amlwg, ceir 1,850 o swyddi ar y safle hwnnw ar hyn o bryd, felly pa sicrwydd allwch chi ei roi ynghylch y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael am ddiogelwch swyddi yn y dyfodol, ynghylch cynhyrchion newydd yn dod i'r gwaith ac, yn anad dim, am ddichonoldeb y ffatri yn y dyfodol fel endid sy'n gweithio o fewn capasiti gweithgynhyrchu Ford yn y Deyrnas Unedig?
Pan roeddwn i yn y ffatri, fe’i gwnaed yn gwbl eglur i mi mai tariffau oedd y broblem. Y ffatri hon yw’r ffatri injans mwyaf effeithlon sydd gan Ford. Mae'r gweithlu yno yn ardderchog ond maen nhw’n allforio pob injan y maen nhw’n ei wneud. Mae wedi’i yrru’n llwyr gan allforion. Byddai tariffau yn golygu tariff cydrannau o 5 y cant yn mynd i’r gwaith cydosod a thariff o 10 y cant o bosibl yn dod yn ôl i mewn eto i'r DU. Mae'n dariff o 15 y cant. Ni all neb ymdopi â hynny. Dywedodd llawer o fusnesau yn yr Unol Daleithiau yr un peth wrthyf: maen nhw’n aros i weld o ran yr hyn y bydd y DU yn ei wneud. Byddaf yn blaen ag ef: rwy’n meddwl os byddwn yn llwyddo i sicrhau mynediad rhydd o dariffau i farchnad Ewrop, rwy’n credu bod y broblem wedi ei datrys. Dyna'r hyn y mae buddsoddwyr busnes yn chwilio amdano. Maen nhw i gyd yn weithrediadau Ewropeaidd. Maen nhw’n ystyried y DU yn rhan o weithrediad Ewropeaidd. Mae unrhyw beth sy'n gosod rhwystr rhwng y DU a gweddill gweithrediad Ewrop yn ddrwg i weithrediad y DU. Felly, mae gweithlu Ford yn ardderchog, maen nhw’n effeithlon, ond ni ellir eu rhoi mewn sefyllfa lle byddai rhwystrau tariff yn ymyrryd â dichonoldeb y gwaith yn y dyfodol, a dyna pam yr wyf i wedi bod yn gwbl eglur pa bynnag fodel y mae’r DU yn ei fabwysiadu—ac mae pedwar gwahanol fodel y gellid eu mabwysiadu sy'n rhoi mynediad llawn fwy neu lai i farchnad sengl Ewrop—bod angen i Lywodraeth y DU ddatgan y safbwynt hwnnw nawr er mwyn rhoi’r sicrwydd hwnnw, nid yn unig i Ford ond i'n holl fuddsoddwyr o dramor.