Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 13 Medi 2016.
Wel, bydd yn Gymru, wrth gwrs, sy’n dal i fod yn rhan bwysig o Ewrop, Cymru sy'n edrych tuag allan ac yn parhau i fod yn llwyddiannus o ran denu buddsoddiad. Dyna'r neges a roddais i i'r Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf. O’m safbwynt i, mae'n hynod bwysig bod gennym ni fynediad di-dariff at y farchnad nwyddau a gwasanaethau. Ni fyddai'n fanteisiol i ni pe byddai tariffau yn cael eu gosod. Ydym, yn unol â'r addewid a wnaed gan y rhai yn Llywodraeth y DU nawr, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr na fydd Cymru yn colli’r un geiniog; mae cymaint â hynny’n wir. Yr hyn y mae angen ei harchwilio nawr yw pa fath o fodel sydd ei angen arnom: ai model yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, ai model Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop, ai model tollau-undeb, ai model cytundeb masnach rydd? Dyna'r pedwar model sy'n cynnig mynediad rhannol o leiaf i’r farchnad sengl. Nid yw'r model Sefydliad Masnach y Byd yn gweithio, yn fy marn i, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Ond mae angen i ni ddeall, yn gyntaf oll, pa un a fydd Llywodraeth y DU yn cadw at ei hymrwymiad y bydd y Llywodraethau datganoledig wrth galon y trafodaethau, ac nid ar ddiwedd y trafodaethau. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU ei hun benderfynu ar beth y mae ei eisiau. Mae wedi sôn am gytundeb wedi’i deilwra; iawn, ond beth yw elfennau'r cytundeb hwnnw y mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried yn hanfodol? I mi, mae cyllid a mynediad at y farchnad sengl yn hanfodol. Hebddynt, nid oes amheuaeth y byddai Cymru yn dioddef. Mae angen archwilio’r hyn y mae'n ei olygu i ryddid i symud cyn belled ag y mae pobl yn y cwestiwn. Rydym ni’n gwybod bod llawer iawn o bobl wedi pleidleisio i adael oherwydd y mater hwnnw, ac mae angen ymdrin ag ef yn ofalus o ran barn y cyhoedd. Y camau nesaf yw: cafodd is-bwyllgor y Cabinet gyfarfod ddoe i ystyried yr heriau cychwynnol y mae Brexit yn eu cyflwyno, a bydd y grŵp cynghori allanol yr wyf yn ei sefydlu yn cyfarfod ar ddiwedd y mis.