Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 13 Medi 2016.
Diolch i chi am yr eglurder ar y pwynt hwnnw, Brif Weinidog. [Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi wrth-ddweud y safbwynt hwnnw yr wythnos diwethaf. Felly, o’r diwedd, mae gennym ni eglurder ac rwy'n ddiolchgar i chi am hynny.
Neithiwr, pleidleisiodd eich ASau Llafur—ASau Llafur Cymru—yn erbyn awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. Roedd y gwelliannau y pleidleisiodd Llafur yn eu herbyn yn dod o’ch llywodraeth a’ch cyfreithiau eich hun yn y Bil Cymru drafft. Ac nid dyna'r tro cyntaf y mae wedi digwydd. Pan wnaethant bleidleisio yn erbyn Plaid Cymru yn ôl ym mis Gorffennaf, dywedasoch mai mater o amseru oedd y broblem yr adeg honno, ac nid mater o egwyddor. Pam na allwch chi ddylanwadu ar eich cydweithwyr yn San Steffan, Brif Weinidog?