Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 13 Medi 2016.
[Yn parhau.]—ddweud, rywsut, bod hyn yn newydd, mae'n amlwg nad yw hi wedi bod yn dilyn y cyfryngau nac yn darllen y papurau dros y ddau neu dri mis diwethaf. Felly, mae mynediad at y farchnad sengl, ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, ar sail ddi-dariff yn gwbl hanfodol. Rwyf wedi bod yn dweud hynny drosodd a throsodd. Yn ail, wrth gwrs, mater i San Steffan yw’r hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Rydym ni wedi cymryd y safbwynt bod awdurdodaeth ar wahân, o leiaf, yn hynod bwysig a, heb yr awdurdodaeth ar wahân honno, ni ellir cael setliad datganoli sy'n para i Gymru.