Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 13 Medi 2016.
Yr hyn na ddywedais i, wrth gwrs, oedd bod y rhai ym myd busnes yn chwaraewyr golff tew a diog, sy’n un o themâu ei blaid ef ar hyn o bryd, y blaid fusnes. Allech chi ddim creu’r fath beth, allech chi? Dyna’r hyn a ddywedodd un o’r prif ymgyrchwyr dros Brexit. Tybed a yw ef wedi darllen fy araith mewn gwirionedd, gan i mi ei gwneud yn hynod eglur bod heriau cyn belled ag y bo Brexit yn y cwestiwn ac amlinellais ffordd ymlaen gyda'r heriau hynny. Dywedais hefyd ei bod yn hynod bwysig bod pensaernïaeth y DU yn cael ei harchwilio er mwyn sicrhau bod y DU yn gadarn ar ôl Brexit ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf wedi ei ddweud lawer, lawer gwaith. Roedd gan y gynulleidfa ddiddordeb aruthrol yn hynny.