Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 13 Medi 2016.
Cyfeiriodd ‘Gweithlu Gofal Sylfaenol wedi’i Gynllunio i Gymru’ at swyddogaeth sy'n dod i'r amlwg cymdeithasau meddygon a’n hysgolion meddygol, fel ffordd o gynyddu nifer y meddygon teulu yng Nghymru. O ystyried argyfwng diymwad y ddarpariaeth o feddygon teulu yng Nghymru, sut ydych chi wedi bwrw ymlaen â’r argymhelliad hwn, a pha gynlluniau sydd gennych chi ar waith i gynyddu’r dim ond 27 o leoedd a ariennir sydd ar gael trwy ein hysgolion meddygol yma yng Nghymru?