1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Medi 2016.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran recriwtio rhagor o Feddygon Teulu? OAQ(5)0120(FM)
Mae cynlluniau i recriwtio a hyfforddi meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd sylfaenol proffesiynol eraill ychwanegol yn flaenoriaeth, ac, wrth gwrs, rwyf wedi bod yn eithaf manwl, o ran yr hyn yr ydym ni’n bwriadu ei wneud ledled Cymru, yn fy ateb i gwestiwn 1.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Ceir pryder dealladwy yng Nghydweli, Brif Weinidog, am yr anhawster o ran recriwtio a chadw meddygon teulu ym meddygfa Minafon, ac mae cynghorwyr Llafur lleol wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r bwrdd iechyd i geisio hysbysu’r gymuned. Er tegwch i Hywel Dda, maen nhw wedi bod yn gwneud eu gorau i geisio recriwtio tîm clinigol i'r feddygfa ac i ddod â staff locwm i mewn. Roeddwn i’n falch iawn o glywed bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgyrch recriwtio yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd ac nad ydynt yn cael eu gadael i gynnal eu hymgyrchoedd eu hunain ar wahân. A wnaiff ef roi rhywfaint o fanylion i ni am ei safbwyntiau ar addasu'r model sydd gan feddygon teulu ar hyn o bryd, o ran datblygu eu meddygfeydd eu hunain a phrynu i mewn iddyn nhw? Oherwydd, yn eithaf amlwg, mae anghenion meddygon teulu modern yn fwy amrywiol ac mae hynny’n ymddangos yn hanfodol er mwyn denu meddygon teulu i leoedd fel Cydweli.
Maen nhw. Hynny yw, rwy’n deall bod dau feddyg teulu locwm wedi eu recriwtio i gymryd lle'r ddau feddyg teulu cyflogedig yng Nghydweli a roddodd rybudd eu bod yn gadael, ac mae’r gwasanaeth hwnnw wedi ei ailgychwyn. Yr hyn yr wyf i’n ei weld ymhlith llawer o feddygon teulu iau yw nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn prynu i mewn i feddygfa. Maen nhw eisiau bod yn gyflogedig; maen nhw eisiau cael yr hyblygrwydd. Yn gyntaf oll, nid yw’r arian ganddyn nhw—mae codi’r arian i brynu i mewn i bractis yn anodd iddyn nhw—a hefyd, wrth gwrs, maen nhw eisiau cael yr hyblygrwydd o allu symud o gwmpas. Mae'r dyddiau pan roedd meddygon teulu yn mynd i rywle ac yn aros yno am eu holl fywydau gwaith—wel, mae llai a llai, rwy’n amau, sydd eisiau gwneud hynny. Mae'n rhaid i’r GIG addasu i’r realiti hwnnw. Mae'n golygu, er enghraifft, pan fo byrddau iechyd yn cymryd meddygfeydd drosodd, mewn gwirionedd, mae'r gwasanaeth yn aml yn gwella o ganlyniad i hynny, ac mae Prestatyn yn enghraifft dda o hynny. Pan fo meddygfa arall yn dymuno cymryd drosodd, mae hynny’n cael ei hwyluso. Mae rhaid cael nifer o wahanol fodelau yn y dyfodol i wneud yn siŵr bod gweithio fel meddyg teulu yn cael ei ystyried yn ddeniadol, yn hytrach na'r un model traddodiadol a fydd yn ddeniadol i rai, ond nid i bawb.
Mi fues i’n cyfarfod wythnos diwethaf efo nifer o feddygon teulu o Ynys Môn, ac mi drafodon ni sut i annog mwy o bobl ifanc i fod eisiau dymuno mynd i yrfa fel GP. Ac rwy’n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder i am y gostyngiad o 15 y cant yn y myfyrwyr o Gymru sydd wedi bod yn gwneud ceisiadau i fynd i astudio meddygaeth. Ond rwy’n siŵr y buasai fo hefyd yn cefnogi fy ngalwad i, a’r BMA ac eraill, am hyfforddi rhagor o feddygon o Gymru yng Nghymru. Mae’r ffigurau yn dangos bod 80 y cant o fyfyrwyr meddygol Gogledd Iwerddon yn dod o Ogledd Iwerddon; rhyw 50 y cant o fyfyrwyr meddygol yr Alban yn dod o’r Alban; a dim ond rhyw 20 y cant o fyfyrwyr meddygol Cymru yn dod o Gymru. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno efo fi bod angen newid y gyfradd yna a bod hynny’n gorfod cynnwys, i raddau, elfen o gwotâu?
Rwy’n credu bod hynny’n deg i wneud y pwynt hwnnw. Fe hoffwn i weld mwy o bobl ifanc yn hyfforddi yng Nghymru. Rwyf wedi clywed straeon sawl gwaith am bobl sydd wedi cael cynnig o ysgol feddygol yn Lloegr ond heb gael cynnig o un yng Nghymru. Felly mae hynny yn rhywbeth sy’n creu pryder i fi. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni sicrhau bod mwy a mwy o bobl ifanc eisiau bod yn feddygon, a hefyd wrth gwrs i sicrhau bod yna fwy o gyfle iddyn nhw i hyfforddi yng Nghymru. Rwy’n deall bod ble rydych chi’n hyfforddi yn cael effaith fawr ar ble rydych chi’n gweithio wedyn yn y pen draw, felly mae’r ddau beth yn mynd gyda’i gilydd.
Cyfeiriodd ‘Gweithlu Gofal Sylfaenol wedi’i Gynllunio i Gymru’ at swyddogaeth sy'n dod i'r amlwg cymdeithasau meddygon a’n hysgolion meddygol, fel ffordd o gynyddu nifer y meddygon teulu yng Nghymru. O ystyried argyfwng diymwad y ddarpariaeth o feddygon teulu yng Nghymru, sut ydych chi wedi bwrw ymlaen â’r argymhelliad hwn, a pha gynlluniau sydd gennych chi ar waith i gynyddu’r dim ond 27 o leoedd a ariennir sydd ar gael trwy ein hysgolion meddygol yma yng Nghymru?
Yn gyntaf oll, os oes argyfwng yng Nghymru, mae argyfwng ar draws gweddill Prydain, gan nad yw’n ddim gwahanol yma o'i gymharu â lleoedd eraill. Mae denu meddygon teulu yn anodd ac yn heriol. Rydym ni’n gwybod hynny, a dyna pam mae ymgyrch yn cael ei lansio ym mis Hydref. Nid yw'n ymwneud â chyfle yn unig, nid am hyblygrwydd yn unig; mae hefyd yn ymwneud â darparu, fel y dywedodd yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yr amgylchedd iawn ar gyfer eu teulu ehangach hefyd. A bydd y datganiad y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud yn amlinellu'n fanwl sut y bydd yr ymgyrch honno’n cael ei chynnal.
Brif Weinidog, cefais gyfarfod ddydd Iau diwethaf gyda Gary Doherty, prif weithredwr bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, a chadarnhaodd i mi mai’r her fwyaf sydd ganddo yn y gogledd yw recriwtio a chadw meddygon, meddygon teulu, a nyrsys hefyd. Un o'r pethau a drafodwyd gennym oedd y posibilrwydd o hyfforddi staff meddygol sy'n siarad Cymraeg yn Ysbyty Gwynedd a hefyd ynghlwm â Phrifysgol Bangor. A ydych chi’n cytuno bod hwn yn syniad da, y byddai hon yn ffordd i ni annog mwy o bobl i astudio yng Nghymru ac i aros yng Nghymru, ond hefyd i helpu gyda'r prinder, y broblem sydd gennym ni o weithwyr proffesiynol sy’n siarad Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd? A fyddech chi’n fodlon siarad â'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, sef canghellor Prifysgol Bangor, a hefyd siarad â Gary Doherty, a oedd yn cytuno â mi bod hwn yn syniad da?
Wel, rydym ni’n agored i unrhyw awgrymiadau. Yr hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, yw y gall unrhyw ysgol feddygol roi cyfle llawn o hyfforddiant i fyfyriwr—mae hwn yn un mater, wrth gwrs, sydd wedi cael ei godi o'r blaen: pa un a ellir gwneud hyn ym Mangor. Nid yw yn ein dwylo ni yn gyfan gwbl. Bydd gan y ddeoniaeth, wrth gwrs, farn ar hynny, yn ogystal â’r rhai sy'n gyfrifol am hyfforddiant meddygol yn ehangach. Mae'n iawn i ddweud ei bod yn anodd recriwtio ym mhob rhan o'r DU, a’r hyn sy’n gwbl hanfodol ar hyn o bryd hefyd yw nad ydym yn rhoi'r argraff nad ydym ni eisiau meddygon a nyrsys o'r tu allan i'r DU—maen nhw’n hollbwysig i’r gwasanaeth iechyd—yn aml o'r tu allan i'r UE. Rydym ni’n gwybod bod y farchnad ar gyfer meddygon yn rhyngwladol; mi fydd bob amser. Ni allwch fyth hyfforddi pobl a fydd wedyn yn aros am eu holl fywydau gwaith yn y wlad lle cawsant eu hyfforddi, felly mae'n rhaid i chi apelio’n rhyngwladol yn ogystal â gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo bod croeso iddyn nhw.