1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Medi 2016.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae GIG Cymru yn cynnal yr egwyddor o fod am ddim yn y pwynt gofal? OAQ(5)0134(FM)
Mae egwyddorion sylfaenol y GIG—i ddarparu gwasanaethau iechyd sy'n gynhwysfawr, sydd am ddim yn y man darparu ac yn seiliedig ar degwch a chydraddoldeb—yn parhau wrth wraidd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Amcangyfrifwyd bod y farchnad fewnol yn y GIG yn Lloegr yn costio hyd at £10 biliwn y flwyddyn. A fyddech chi’n cytuno â mi bod ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i beidio â chael unrhyw farchnad fewnol yn y GIG yng Nghymru wedi bod o fudd aruthrol i gleifion, a’i fod yn ymrwymiad a fydd yn parhau?
Gallaf roi'r ymrwymiad hwnnw 100 y cant. Rydym ni’n gwybod, lle mae marchnadoedd wedi eu cyflwyno yn y GIG mewn mannau eraill, eu bod wedi arwain at wastraff ac aneffeithlonrwydd.
Diolch, Brif Weinidog.