Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 13 Medi 2016.
Mae'r rhan fwyaf o'r gweithwyr yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn etholaeth fy nghyfaill, y Prif Weinidog, ond hefyd fy un innau. Wedi siarad â'r undebau a'r gweithlu a rheolwyr Ford eu hunain mae'n amlwg, er nad Brexit yw'r ffactor perthnasol yn y penderfyniad hwn—cynhyrchu llai o injans Dragon yw hwnnw—mae'n fater sy'n eu poeni oherwydd yr union fater hwn y mae’r Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn amdano, sef bod, er mwyn sicrhau bod y ffatri hon yn llwyddiant, mae angen ailddyfeisio’r llinellau cynnyrch yn gyson yn y dyfodol, buddsoddiad newydd yn y llinellau hynny, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn sefyll yn gadarn y tu ôl iddynt, fel yr ydym wedi ei wneud bob amser yn y gorffennol hefyd. Mae hwn yn weithlu hynod o dda. Maent yn fedrus iawn. Mae'n un o'r llinellau mwyaf cynhyrchiol yn Ewrop o unrhyw beirianwyr modurol. Mae ganddo ddyfodol da, ac mae’n rhaid i ni ganmol y ffatri, ond mae gan y gweithlu y pryderon hynny y bydd buddsoddiad yn digwydd mewn llinellau newydd yn y dyfodol mewn gwirionedd. Felly, ar y cyfle cynharaf y gallwn ehangu ar y cynlluniau hynny, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn, oherwydd mae angen inni weld y swyddi hyn yn cael eu cynnal yn ne Cymru.