Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 13 Medi 2016.
Wel, rwyf yn rhannu pryderon yr Aelod am y gweithlu, ac yr wyf yn rhannu pryderon y gweithlu am weithrediadau’r ffatri yn y dyfodol. Yn wir, rwyf wedi siarad ag ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite ac eraill i drafod sut y gallwn gydweithio gyda Ford i nodi cyfleoedd i gynnal gweithrediadau adeiladu injans ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n credu bod nifer o bethau cadarnhaol i’w cael o’r sefyllfa bresennol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn gyntaf oll, mae'n debyg y bydd y galw am injans petrol, oherwydd dieselgate, yn cynyddu. Yr hyn y mae Ford wedi ei ddweud wrthym yw, yn ystod y cam cychwynnol, y bydd cynhyrchu'r injan newydd—yr injan diesel—yn dechrau gyda rhywbeth oddeutu 125,000 o unedau bob blwyddyn. Fodd bynnag, maent wedi bod yn glir y bydd gallu i gynyddu hynny hyd at, o bosibl, y 250,000 o unedau. Rwyf wedi dweud y byddaf yn parhau i fod yn gadarn yn fy ymrwymiad i gefnogi Ford, ond bydd lefel ein cefnogaeth yn gymesur â nifer y swyddi y gallant eu sicrhau. Mae'r arian a oedd ar gael i sicrhau'r 770 o swyddi yn dal i fod ar y bwrdd os gallant eu gwarantu.
Nawr, o ran ail beth cadarnhaol, fel y mae’r Aelod newydd ei nodi, mae Pen-y-bont ar Ogwr yn un o'r ffatrïoedd gwneud injans mwyaf effeithlon a chynhyrchiol mewn unrhyw le yn y byd. Yn drydydd, mae ganddo un o'r gweithluoedd mwyaf medrus ar gael i ddibynnu arno. Yn bedwerydd, mae injans trydan newydd a thechnoleg newydd—ac rydym ar flaen y gad yn y cyswllt hwn—y bydd yr holl sector injans yn manteisio arnynt. Hoffwn weld Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn manteisio ar hynny. Yn ogystal, rydym yn gwybod y bydd Aston Martin yn adeiladu ceir yma yng Nghymru. Rwyf yn awyddus i archwilio’r potensial o symud addasiad yr injan Mercedes V12 o'r Almaen i Gymru o bosibl. Rwy'n credu y byddai'n gaffaeliad mawr i Ford. Yn olaf, mae'r potensial yno ar gyfer buddsoddiad cyfalaf pellach, y mae fy swyddogion eisoes yn credu bod cwestiwn i'w ofyn ynglŷn â chynaladwyedd y pris cymharol isel o ran diesel hefyd, fel cynnyrch, sydd wedi sbarduno galw am geir diesel. Nid wyf yn credu y gellir cynnal hynny yn y tymor hir, ac y bydd ailaddasiad tuag at ffafrio petrol, a fyddai yn ei dro o fantais i ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr.