Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 13 Medi 2016.
Diolch, Lywydd. Diolch i chithau hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn gweld eich atebion yn eithaf defnyddiol, mewn gwirionedd, oherwydd credaf ein bod i gyd yn rhannu'r un farn ar ansawdd ac effeithiolrwydd y ffatri, ond, er gwaethaf hynny, mae unrhyw ostyngiad mewn buddsoddiad bob amser yn mynd i beri pryder i'r gweithlu. Mae’r Prif Weinidog yn dweud mai tariffau yw’r broblem. Rydych chi wedi dweud bod yna ostyngiad byd-eang yn y galw am y math yma o injans. Rwy'n meddwl tybed pa un yw’r sbardun mwyaf yn hyn o beth, a tybed a allwch chi daflu rhywfaint o oleuni ar hynny. Pan eich bod yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru—ac rwy'n eich dyfynnu— yn gwneud popeth o fewn ei gallu—i gefnogi parhad y swyddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rwy'n meddwl tybed beth yn union yr ydych chi’n ei olygu wrth hynny. Oherwydd, un peth yw dweud bod Aston Martin yno, a bod posibilrwydd y bydd cyfle, gadewch i ni ddweud, ar gyfer Ford yn hynny o beth. Ond, beth yn union mae gan Ford Europe wedi ei ddweud wrthych am y syniadau uwch-dechnoleg hyn sy'n cael eu datblygu, a beth allech chi ei wneud, fel rhan o Lywodraeth Cymru, i symud y syniadau hynny ymlaen yn gyflymach, fel bod y pryderon ynghylch cynhyrchu amgen yno’n gallu eu bodloni a'u terfynu, os mynnwch chi? Oherwydd, o’m safbwynt i, mae'n anodd iawn dychmygu sut y byddai’r cynhyrchu amgen yn edrych, oni bai bod rhywun mewn gwirionedd yn dweud wrthyf sut mae'n edrych.
O ran cymorth ariannol ychwanegol, fe wnaethoch grybwyll y gallai hynny fod ar y bwrdd yn eich ateb olaf i Huw Irranca-Davies yn y fan yna. Ond wrth gwrs, mae £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi mynd i’r ffatri hon. Hoffwn wybod pa warantau a fynnwyd gennych cyn i chi roi’r £15 miliwn hwnnw. Ai dim ond y byddai swyddi'n cael eu gwarantu, neu a oedd yn golygu bod lefel buddsoddiad Ford ei hun yn y ffatri honno hefyd wedi ei warantu? Oherwydd, unwaith eto, gwnaethoch grybwyll yn eich ymatebion y gallai fod newidiadau o ran canran yr hyn yr ydych yn mynd i’w roi o ran y £15 miliwn hwnnw os na fyddech yn cael yr atebion yr yr oeddech yn gobeithio eu cael gan Ford. Felly, mewn gwirionedd, os nad yw penderfyniad Ford yn effeithio ar ymrwymiad hwnnw, rwyf ynmae arnaf eisiau gwybod pam.