Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 13 Medi 2016.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau treiddgar? Yn gyntaf oll, o ran gwarantau, o ran yr injan Dragon, rydym wedi bod yn glir, yn rhan o'r contract gyda Ford, na fyddwn yn rhyddhau ceiniog hyd nes y byddwn wedi gweld £90 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y ffatri i ddatblygu'r injan Dragon. Felly, bydd ein buddsoddiad ni yn dilyn eu buddsoddiad nhw. Mae ein meini prawf ar gyfer cefnogi datblygiadau o'r fath yw o leiaf bum mlynedd o gyflogaeth gynaliadwy a diogel ar gyfer nifer penodol o bobl. Cyfatebir y rhif hwnnw i'r graddau yr ydym yn cefnogi'r ffatri. Nododd yr Aelod, rwy’n credu, mai £50 miliwn oedd hwnnw. Mewn gwirionedd, nid yw hynny mewn un cyfandaliad. Ers 2003, rydym wedi buddsoddi oddeutu £57 miliwn yn y ffatri i gefnogi dros 1,000 o swyddi. Mewn gwirionedd, ar hyn o bryd, mae oddeutu 1,850.
Roedd yr Aelod yn gofyn am gynnyrch newydd a chynhyrchion presennol sy'n cefnogi'r gweithlu yno. Rhoddaf drosolwg cyflym o ba gynnyrch sydd yno a sut y maent yn cefnogi’r niferoedd cyflogaeth presennol. Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cynhyrchu'r injan AJ. Mae'n injan ardderchog sy'n cael ei defnyddio ar gyfer Jaguar Land Rover—injan V6, V8. Mae'n un o'r goreuon sydd ar gael; mae honno’n mynd i barhau i gael ei chynhyrchu yn y ffatri. Ar hyn o bryd, mae 145,000 o unedau, neu oddeutu hynny, yn cael eu cynhyrchu. Yn ail, bydd yr injan Sigma, a bydd yr Aelod wedi clywed am yr injan EcoBoost, sy'n hynod boblogaidd—ar hyn o bryd, mae oddeutu 550,000 o unedau o'r math hwnnw yn cael eu cynhyrchu.
Wrth i ni nesáu at 2018, bydd y buddsoddiad yn yr injan Dragon newydd yn cael ei gyflwyno, ac o 2018 ymlaen, bydd yr injan honno yn cael ei chynhyrchu. Y nod oedd cynhyrchu 250,000 o unedau o flwyddyn un. Ar hyn o bryd, mae Ford yn dweud, oherwydd y galw byd-eang—a byddaf yn dod at y cwestiwn ar y galw—y bwriedir adeiladu 125,000 o unedau yno erbyn hyn. Fel yr wyf wedi ei nodi, mae dieselgate eisoes yn bodoli ynghyd â chost gymharol isel diesel yn erbyn petrol a allai arwain at gynnydd yn y galw ar gyfer injans petrol wrth i ni nesáu at 2018. Serch hynny, o 2018 ymlaen, bydd, fel mae Ford yn ei nodi ar hyn o bryd, o flwyddyn un, 125,000 o unedau yn cael eu cynhyrchu.
Yn ogystal, mae cydrannau a durniwyd yn cael eu cynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n gyfystyr ag oddeutu 100,000 o unedau. Mae’r rhain yn cael eu hallforio. Felly, yn amlwg, ar hyn o bryd, mae gennym farchnad arian eithaf ansefydlog. Rydym yn gobeithio y byddwn yn gweld sefydlogrwydd yn dychwelyd cyn gynted ag y bo modd, ond o edrych ar werth cymharol y bunt yn erbyn arian arall, rydym yn rhagweld y bydd yr allforion cydrannau a weithgynhyrchir hynny yn parhau ar y lefel hwnnw, os nad yn uwch na’r lefel hwnnw. Dyna hanes y ffatri ar hyn o bryd ac yn y dyfodol agos. Yn ogystal, rydym yn edrych, fel yr wyf wedi ei grybwyll eisoes, ar ystod eang o dechnolegau newydd sy'n dod i'r amlwg yn y sector rhannau ceir. Mae datblygiad y sector rhannau ceir yn cyflymu ac rydym yn awyddus i wneud yn siŵr, pa un a yw’n injans trydan, neu’n gerbydau awtonomaidd, ein bod ar flaen y gad o ran datblygu. Felly, rydym mewn trafodaethau gyda Ford am eu dyheadau ar gyfer eu cynhyrchion a sut y gallwn ni fuddsoddi yn yr arloesedd a'r dechnoleg sydd eu hangen i wireddu eu huchelgais.
O ran y galw, sef y rheswm ar hyn o bryd pam mae Ford wedi lleihau nifer amcangyfrifedig yr injans sy’n cael eu cynhyrchu o flwyddyn un—ar hyn o bryd, y galw yw hwnnw. Fodd bynnag, yn y tymor hwy, y pryder sydd gan Ford, y pryder sydd gennym ni, ac yn sicr yr hyn y dylai pawb ei gydnabod, yw heb fod gennym fasnachu di-dariff gyda’n marchnad allanol unigol fwyaf, byddwn yn gweld nifer o weithgynhyrchwyr mewn trafferthion. Mae Ford, ymhlith llawer eraill, wedi nodi mynediad di-dariff i’r farchnad sengl fel bod yn hollbwysig yn y trafodaethau Brexit. Rydym yn parhau i fod yn glir iawn, wrth inni drafod sut y dylai Prydain edrych, a sut y dylai Prydain ryngweithio gydag Ewrop yn y dyfodol, bod mynediad dilyffethair at y farchnad sengl, heb dariffau, ac mewn amgylchedd rheoleiddio cadarn a diogel, yn hollbwysig.