– Senedd Cymru ar 13 Medi 2016.
Rwyf nawr yn galw ar Simon Thomas i ofyn yr ail gwestiwn brys.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Fyrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a’r Fro, a Hywel Dda, yn sgîl eu codi i statws ymyrraeth wedi’i thargedu? EAQ(5)0036(HWS) [W]
Diolch am y cwestiwn. Yn dilyn y cyfarfod teirochrog arferol diweddaraf rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, cytunwyd y dylid codi’r tri sefydliad y gwnaethoch sôn amdanynt i statws ymyrraeth wedi’i thargedu yn ein fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrraeth. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar hyn i holl Aelodau'r Cynulliad ar 7 Medi.
Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, roeddwn i wedi derbyn y datganiad ysgrifenedig, ond roeddwn yn awyddus iawn i ofyn cwestiynau ar lawr y Siambr am y penderfyniad a’r rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad yma. Mae hyn nawr yn gadael pedwar mas o’r saith prif fwrdd iechyd sy’n delio â gofal sylfaenol ac eilradd yn nwylo rhyw fath o ymyrraeth arbennig o du’r Llywodraeth. A fedrwch chi esbonio sut mae’r sefyllfa yma wedi codi, ar ôl i’ch Llywodraeth chi benderfynu pasio, er enghraifft, Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, rhyw ddwy neu dair blynedd yn ôl, a oedd i fod i osod y byrddau iechyd yma ar statws a sefydlogrwydd llawer mwy pendant, ac ar ôl i chi bregethu wrth y byrddau iechyd ynglŷn â’r angen i gynllunio’r gweithlu, un o’r gwendidau amlwg, er enghraifft, ym mwrdd iechyd Hywel Dda, yn ôl beth rwy’n ei ddeall? Ar ôl esbonio sut mae hyn wedi digwydd, a fedrwch chi esbonio pwy oedd yn gyfrifol am y diffygion hyn? Ai’r weinyddiaeth a’r rheolwyr lleol yn y byrddau iechyd, yntau chi—er eich bod chi’n weddol newydd i’r swydd yma—neu chi yn eich swydd flaenorol a’r Gweinidog blaenorol? Yn y cyd-destun hwnnw, a fedrwch chi hefyd ddweud wrth y Cynulliad beth sydd wedi digwydd i Trevor Purt, a oedd yn brif weithredwr ar fwrdd iechyd Hywel Dda, wedyn Betsi Cadwaladr—dau fwrdd iechyd sydd wedi dioddef yn ofnadwy ar ôl iddo fe fod yn brif weithredwr arnyn nhw? A yw Mr Trevor Purt yn dal i gael ei dalu gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau dilynol. O ran eich pwynt cyffredinol am gyllid y GIG ledled Cymru, wrth gwrs, llwyddodd wyth o'n 10 sefydliad i sicrhau mantoli ariannol y llynedd. Un sefydliad na lwyddodd i wneud hynny oedd Hywel Dda. Mae hyn yn hollol wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr, lle nad yw wyth allan o 10 o ymddiriedolaethau ysbytai acíwt yn llwyddo i sicrhau mantoli ariannol.
Mae'r pwynt am gynllunio'r gweithlu a'r modelau gofal yn gysylltiedig yn rhannol â chyllid, ond nid yn union, oherwydd yr hyn y mae'n rhaid i ni allu ei wneud yw cynllunio system sy’n cyflawni gofal iechyd y boblogaeth gyfan, i weithio mewn gwirionedd mewn partneriaeth briodol gyda chydweithwyr awdurdodau lleol a thai yn arbennig. Mae’r her sy'n wynebu Hywel Dda yn rhannol yn un hanesyddol sy’n ymwneud â’i allu i reoli ei gyllid, ac mae’n rhannol yn ymwneud â’i allu i gynllunio a rheoli ei weithlu. Mae hynny hefyd yn golygu bod angen iddo edrych ar ei fodelau gofal, ac mae hynny'n rhan o'r symudiad ehangach yn y GIG o ran sut y mae gwasanaethau ysbyty nid yn unig yn cael eu rhedeg a'u rheoli, ond y gwasanaethau sydd gennym mewn gwirionedd yn y gymuned. Felly, mae’r ymyrraeth hon sydd wedi’i thargedu yn ymwneud â cheisio cefnogi Hywel Dda gyda thîm arweinyddiaeth gymharol newydd, a cheisio deall ar y cyd nid yn unig yr heriau sydd ganddyn nhw, ond beth allwn ni ei wneud ochr yn ochr â nhw i'w cefnogi i wella. Dyna yw ein nod a'n disgwyliadau.
Rwyf eisiau gweld Hywel Dda mewn sefyllfa lle mae ganddo gynllun cymeradwy tymor canolig integredig tair blynedd. Dyna pam maen nhw wedi eu symud i statws ymyrraeth wedi'i thargedu yn y meysydd penodol a amlinellais yn fy natganiad, a dyma’r meysydd yr ydym yn canolbwyntio arnyn nhw. Rwy'n credu bod hyn yn dangos bod y fframwaith ymyrraeth ac uwchgyfeirio yn real. Byddai wedi bod yn llawer mwy cyfleus dod o hyd i ffordd o beidio â chodi eu statws. Gwnaethom ddewis peidio â gwneud hynny oherwydd y cyngor a gawsom gan brif weithredwr GIG Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru oedd mai dyma’r peth iawn i'w wneud: darparu'r gefnogaeth honno mewn modd adeiladol. Rwy’n gobeithio ac yn disgwyl dod yn ôl i'r Siambr yn y dyfodol i ateb cwestiynau ar hyn, ac mae gennyf bwyllgorau yr wythnos hon hefyd. Bydd yn rhan o drafodaeth reolaidd yn y cyfarfod teirochrog nesaf yn y gwanwyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, siaradais â chadeirydd Hywel Dda dros y ffôn yn syth ar ôl i chi gyhoeddi eich datganiad. Yr hyn a ddeallais o’r sgwrs honno oedd bod y bwrdd iechyd yn rhoi croeso brwd i’r gefnogaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn gallu ei darparu iddo. Rwy'n credu bod angen cofnodi nad mater o achub croen gan Lywodraeth Cymru yw hwn, ac nid yw'n fater o Lywodraeth Cymru yn caniatáu i'r byrddau iechyd fynd i'r wal, ond mae'n ymwneud â Llywodraeth Cymru yn ceisio symud i mewn, yn ceisio cefnogi a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer y bobl sy'n cyfrif. Hynny yw, yn y pen draw, y claf.
Bydd fframwaith y pedwar lefel uwchgyfeirio nawr yn ein galluogi i lunio siart o dueddiadau. Yn syml, byddwn nawr yn gallu gweld a yw pethau'n gwella neu a fydd angen rhagor o weithredu. Yn achos Hywel Dda a’r amseroedd aros, er enghraifft, rydym wedi gweld dirywiad yn y perfformiad dros rai blynyddoedd, gan gynnwys y cyfnod y bu dan statws monitro gwell. Ond mae cyferbyniad yma, ac rydym hefyd wedi gweld rhywfaint o welliant i amseroedd ymateb ambiwlans, er enghraifft. Felly, rwyf wir yn falch, Weinidog, ein bod wedi ymyrryd ac wedi cydnabod bod gwendidau. Yr hyn yr wyf yn gofyn i chi amdano yw eich bod yn rhoi adborth i ni, Ysgrifennydd y Cabinet—rwy’n ei chael hi’n anodd dod allan o’r arfer o ddweud ‘Weinidog’—bod y Llywodraeth, drwy ymyrraeth wedi’i thargedu, bellach yn gallu cynghori a grymuso Hywel Dda i weithredu'r strategaeth a fydd yn gweld y newidiadau yr ydym i gyd yn gobeithio eu gweld.
Diolch am y cwestiwn a'r pwyntiau a wnaed. Credaf ei bod yn werth atgoffa ein hunain bod ystod o feysydd lle mae Hywel Dda yn gwneud yn arbennig o dda– diagnosteg, er enghraifft, mae wedi ei wneud yn arbennig o dda, ac mae mewn sefyllfa lle, ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, nad oedd unrhyw un yn aros mwy nag wyth wythnos. Felly, mae ystod o bethau cadarnhaol ar gyfer Hywel Dda, yn ogystal â'u heriau, a dyna pam maen nhw yn y maes penodol hwn o ymyrraeth wedi'i thargedu. Nid yw hwn yn ymarfer hyd braich o bwyntio bys; mae a wnelo â dweud, 'Dyma heriau yr ydym ni’n sylweddoli nad ydynt wedi’u datrys yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf’. Mae yma gefnogaeth sy'n mynd i fod yn gefnogol, ac sy’n mynd i helpu i gyflawni'r gwelliant yr ydym ni’n disgwyl ei weld ac y dylen nhw ddisgwyl ei weld ganddynt eu hunain. Rwy'n falch y bu ymateb adeiladol gan y sefydliad, gan fod yn rhaid i ni allu nodi heriau ac yna gwneud rhywbeth ynglŷn â hwy, yn hytrach na dim ond dweud, 'Eich bai chi yw hyn, gwnewch rywbeth amdano'. Ond mae'n werth nodi, yn y drafodaeth ar uwchgyfeirio, nad tri sefydliad yn unig a uwchgyfeiriwyd. Soniasoch am amseroedd ymateb ambiwlans—aeth Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i lawr o ran ei statws uwchgyfeirio oherwydd y cynnydd sylweddol a pharhaus a wnaed ganddi. Mae honno'n stori lwyddiannus y dylem i gyd fod yn barod i’w chlodfori. Mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth sefydliad yn gweithio gydag undebau llafur a'r gweithlu i gyflwyno gwelliannau sylweddol ac o ddifrif ledled y wlad.
Weinidog, rwy'n ddiolchgar iawn am eich datganiad, ac rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd, o weld eich bod wedi cymryd y cam hwn, oherwydd credaf ei bod yn bryd i ni gefnogi ein byrddau iechyd yn fwy trylwyr. Er hynny, Weinidog, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn rhoi’r bai yn gyfan gwbl ar eich Llywodraeth chi, eich rhagflaenwyr, eu bod wedi caniatáu i'r byrddau iechyd fynd i’r cyflwr hwn.
Hoffwn siarad am bob agwedd. Sylwaf o'ch datganiad byr eich bod yn dal yn ceisio sicrhau bod y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig yn cael eu cymeradwyo. A fyddant yn dal i fod yn Gynlluniau Tymor Canolig Integredig tair blynedd ar ôl y flwyddyn o gymorth? Hoffwn ofyn y canlynol am bob un o’r tri, os caf, o ran: a yw’n ymwneud yn gyfan gwbl â’r arian ar gyfer y tri bwrdd iechyd? A oes rhywfaint ohono’n ymwneud â safonau? A oes rhywfaint ohono’n ymwneud ag amseroedd aros? Rwyf i’n meddwl bod yna ychydig o anhawster wrth ddarllen trwy’r rhesymau dros bob un o'r byrddau iechyd hynny yn cael ymyrraeth wedi'i thargedu. A allech chi’n gyflym iawn amlinellu i ni beth mae 'ymyrraeth wedi'i thargedu' yn ei olygu mewn gwirionedd? A yw’n debycach i fwrdd cynghori gweinidogol y bydd rhywun yn gallu mynd ato, lle bydd grŵp o bobl, a byddant yn helpu'r tîm uwch reolwyr i gael statws Cynllun Tymor Canolig Integredig? Neu a yw'n llawer llai ymarferol na hynny?
Mae'n rhaid i mi wneud y pwynt bod yr ymddiriedolaeth ambiwlans, rwy'n falch o ddweud, wedi dechrau ar drefniadau mwy arferol. Ond, gadewch inni fod yn glir, bu newid sylweddol o ran y targedau, ac felly nid wyf yn synnu eu bod wedi llwyddo i fodloni rhai ohonynt.
Yn olaf, Weinidog, mae’r ffaith fod pedwar o'n hwyth bwrdd iechyd mawr yn destun rhyw fath o ymyrraeth neu fesurau arbennig yn ergyd i’r cyhoedd ac yn ergyd i ysbryd y staff sy'n gweithio yn y sefydliadau hyn. Felly, pa ganllawiau ydych chi wedi'u rhoi i’r byrddau iechyd hyn ar sut y maent yn trin eu staff a disgwyliadau eu staff? Does neb yn hoffi meddwl y gallent fod yn gweithio i sefydliad sy'n methu. Rwy'n credu bod yn rhaid cael eglurder gwirioneddol o’r hyn y mae’n ei olygu a dylai hyn fod yn fwy o gymorth na dweud bod y sefydliadau hyn—neu rwy’n gobeithio y byddwch yn dweud wrthyf fod hyn yn ymwneud mwy â chymorth yn hytrach na dweud bod y sefydliadau hyn mewn gwirionedd yn mynd ar i lawr yn sylweddol, gan y caiff ysbryd y cleifion a’r staff ei daro gan hyn. Credaf ei bod yn ddyletswydd arnoch chi i geisio codi’r ysbryd. Hoffwn ddeall sut yr ydych yn mynd i allu gwneud hynny fel y gallwn sicrhau'r cyhoedd bod defnyddio’r pedwar bwrdd iechyd hynny yn dal yn ddiogel, yn amserol, ac y byddant yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt pan fydd eu hangen arnynt.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Mae yna beth cyferbyniad o'r dechrau i'r diwedd. Ar y naill law mae croeso i’r camau a gymerwyd, ac yna gresynu’r camau a gymerwyd tuag at y diwedd. Rwy'n credu mai’r gwir gonest yw nad dim ond cydnabyddiaeth ac adlewyrchiad pwysig o’n sefyllfa yw'r ymyrraeth wedi’i thargedu, ond mae'n ymwneud â chefnogi’r sefydliadau hynny i wella. Mae gwahanol agweddau ar wella sydd wedi arwain at yr ymyrraeth wedi’i thargedu ym mhob un o'r tri sefydliad, ac rwyf yn nodi’r rhain yn y datganiad. Nid yw’n fater syml o reoli her ariannol, er ei bod yn amlwg, er enghraifft, bod angen i Abertawe Bro Morgannwg weld rhywfaint o welliant parhaus o ran ei berfformiad ym maes gofal heb ei drefnu ymlaen llaw. Mae angen iddynt hefyd wella eu perfformiad o ran canser. Felly, cafodd hynny ei wneud yn glir yn fy natganiad. Bydd y cymorth ymyrraeth wedi’i thargedu yn canolbwyntio ar y meysydd penodol hynny. Yn Hywel Dda, ceir heriau gwahanol, ac yng Nghaerdydd a'r Fro hefyd. Felly mae’n ymwneud mewn gwirionedd â’r ochr gefnogol honno.
Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae'r sefydliadau hyn yn ei wneud yn nhermau byd-eang oherwydd nid ydym yn dweud bod y rhain yn sefydliadau sy'n methu. Mae hyn yn rhan o'n her o gael sgwrs aeddfed a gonest am y gwasanaeth iechyd, am yr holl bethau ac mae’r gwasanaeth yn ei wneud yn rheolaidd i newid bywydau, bob dydd, ym mhob rhan o Gymru, ac ar yr un pryd, gallu mynd i'r afael ein hunain â’r meysydd heriol hynny lle mae angen inni weld gwelliant pellach. Dyna'r hyn yr ydym wedi ei wneud gyda’r penderfyniadau ymyrraeth wedi'i thargedu a’r gefnogaeth y byddant bellach yn ei chael gan Lywodraeth Cymru.
Mae hynny'n fy arwain yn ôl yn hwylus at eich pwynt am y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig, ac, wrth gwrs, bydd y rhain yn parhau i fod yn gynlluniau tair blynedd. Felly, y disgwyliad yw, gyda'r ymyrraeth wedi'i thargedu a’r gefnogaeth a gânt, y byddant yn ymdopi trwy'r flwyddyn hon, ac rydym am iddynt fod yn y sefyllfa o gael Cynlluniau Tymor Canolig Integredig tair blynedd wedi’u cymeradwyo y flwyddyn nesaf. Dyna ein huchelgais ar gyfer pob un o'r sefydliadau hyn ledled Cymru.
Yn olaf, ar fater ambiwlansys, a grybwyllwyd gennych, penderfynwyd newid y targedau ambiwlans y cyfeiriwyd atynt ar sail y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau posibl. Rydym yn gwasanaethu pobl Cymru yn well o ganlyniad i wneud hynny, gan ein bod yn canolbwyntio’r adnodd ansawdd uchel a drud hwn a ddarperir gan ambiwlansys brys ar gyfer y bobl hynny sydd angen yr ymyrraeth honno i helpu i achub bywydau. Mae’r hyn yr ydym yn ei wneud gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn gwbl dryloyw. Cynhelir adolygiad priodol, a chyhoeddais, yn yr haf eto, y bydd gwerthusiad priodol o'r cynllun arbrofol ei hun. Rwy’n falch o'r penderfyniad yr ydym wedi’i wneud, rwy'n hyderus am ein sefyllfa, ac rwy'n ceisio gwneud yn siŵr bod gennym system, wrth symud ymlaen, sy'n parhau i ddweud y byddwn yn gwneud y peth iawn dros y cleifion sydd â’r angen mwyaf. Yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a gweddill y byd, maent yn edrych yn gadarnhaol ar yr hyn yr ydym wedi penderfynu ei wneud, yn seiliedig ar dystiolaeth a chyngor clinigol.
Hoffwn ddechrau drwy ddatgan bod fy ngwraig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi tynnu sylw at rai o'r agweddau da sy'n digwydd, yn ogystal â thynnu sylw at yr ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer PABM mewn gwasanaethau canser a gofal heb ei drefnu ymlaen llaw. Pa waith monitro y byddwch yn ei wneud i sicrhau, wrth i ni weld, gobeithio, cynnydd yn y meysydd hynny a dargedwyd, na fyddwn yn gweld diffyg mewn meysydd eraill i wneud iawn am hyn? Pryd fyddwch chi mewn gwirionedd yn cyflwyno adroddiadau ac adroddiadau ar gynnydd i ni fel y gallwn weld sut mae'n gweithio mewn gwirionedd? Mae gennym y ffigurau diwedd blwyddyn, ond rydym eisiau gweld cynnydd drwy gydol y flwyddyn, felly a fyddwn ni’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn y Cynulliad? A allwch chi ddweud wrthym hefyd pa gamau yr ydych wedi eu cymryd, gan fod rhai o'r pryderon yn amlwg yn gysylltiedig â materion adnoddau? A fyddwch chi’n cynnig cefnogaeth sy'n cynnwys ac yn cyflwyno mwy o adnoddau i rai o'r byrddau hynny er mwyn iddynt allu mynd i'r afael â’r materion hynny yr ydych wedi eu nodi?
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Mae amrywiaeth o heriau gwahanol ym mhob un o'r byrddau, fel y soniais o'r blaen, ac rwyf wedi trafod her ariannol Hywel Dda a'r ffaith, yn achos Caerdydd a'r Fro, mai un o'r meysydd ar gyfer eu symud i ymyrraeth wedi'i thargedu oedd ein hyder yn eu gallu i fantoli eu llyfrau eleni a thrwy fersiwn nesaf eu cynllun canolradd. Nid yw’n ymddangos i ni fod ABM yn her oherwydd eu cyllid yn benodol. Ond rwy’n ystyried o ddifrif y pwynt am y ffaith na ddylai fod unrhyw ddirywiad yn y meysydd perfformiad sy'n gweithio'n dda wrth iddynt fynd i'r afael â meysydd ymyrraeth wedi'i thargedu. Bydd hynny'n cael ei ddatblygu yn ein fframweithiau a’r mecanwaith atebolrwydd arferol. Byddaf yn siarad â'r cadeirydd yn rheolaidd yn ystod cyfnod yr ymyrraeth wedi’i thargedu. Cynhelir cyfarfod arferol arall o'r grŵp cynghori teirochrog—prif weithredwr GIG Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru—yn y gwanwyn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf a chyngor i mi ar gynnydd pob sefydliad yn y meysydd ymyrraeth wedi’i thargedu. Felly, bydd yna eglurder ac, unwaith eto, rwyf yn disgwyl gwneud datganiad i Aelodau fel arfer, ar ôl i’r cyfarfod hwnnw gael ei gynnal. Ond, mae llawer o fesurau cynnydd sylweddol yn ABM—er enghraifft, diagnosteg, lle unwaith eto mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud a’i gynnal yn gyffredinol dros y flwyddyn hon hefyd. Maent hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol gwirioneddol yn eu hamseroedd aros. Yr her yw gwneud mwy o hynny ac, ar yr un pryd, ymdrin â’r meysydd ymyrraeth wedi'i thargedu. Rwy'n credu y dylai’r camau hyn gael eu gweld fel rhai cefnogol a defnyddiol wrth ganiatáu i’r sefydliad hwnnw wneud yr hyn y dylai ei wneud ar gyfer y boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu.
Weinidog, diolch i chi am eich atebion y prynhawn yma. Byddwn ychydig yn llai hael nag Angela drwy ddweud bod 50 y cant o'r Byrddau Iechyd Lleol yn destun mesurau arbennig neu dan ryw fath o oruchwyliaeth y Llywodraeth ar hyn o bryd; mewn gwirionedd mae chwech ohonynt yn fyrddau iechyd sydd ag ysbytai cyffredinol dosbarth o fewn eu cylch gwaith, a dwy ran o dair ohonynt yn awr—pedwar ohonynt—dan ryw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Gobeithio y bydd hynny'n cael ei weld fel mesur defnyddiol ar gyfer y byrddau iechyd hynny fel y gallant symud ymlaen yn y meysydd lle y mae angen iddynt wneud hynny. Ond rwy’n credu nad yw hi’n afresymol gofyn y cwestiwn: am ba mor hir yr ydych yn rhagweld y lefel hon o ymyrraeth yn parhau, yn enwedig ar gyfer y tri diweddaraf i gael mynediad at y rhaglen gymorth hon gan y Llywodraeth, os ydych am ei galw'n hynny, neu ymyrraeth y Llywodraeth? Pryd all y staff a phryd all y cleifion gymryd rhyw fath o gysur yn y ffaith y bydd y byrddau iechyd lleol hyn yn dod i'r amlwg fel sefydliadau mwy annibynnol sy’n rhedeg y gwasanaethau o fewn eu maes rheolaeth?
Wel, y pwynt i'w wneud am ymyrraeth wedi’i thargedu, mewn ymateb i'r sylwadau sydd newydd gael eu gwneud, yw ei bod yn cael ei thargedu at feysydd penodol o'r gwasanaeth. Dyma’r meysydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ochr yn ochr â’r sefydliadau hynny arnynt, gan helpu i’w cyfeirio ar hyd llwybr o welliant. Yn eu meysydd gweithredu eraill, maent yn cadw’r cyfrifoldeb a oedd ganddynt cyn y cyhoeddwyd y sefyllfa hon. Felly, ym mhob un o'r meysydd hynny, byddant yn cadw’r annibyniaeth a fesurwyd a’r annibyniaeth a enillwyd, a disgwylir y byddant yn parhau i gyflawni gwelliannau a mynd i'r afael â'r heriau y mae pob bwrdd iechyd yn eu hwynebu ar draws Cymru ac, yn wir, ledled y Deyrnas Unedig. Credaf, wrth edrych ar yr hyn a fydd yn digwydd wedyn a phryd y byddwn yn gweld yr adroddiad—a dywedais yn gynharach wrth David Rees ac mewn sylwadau cynharach hefyd y bydd y cyfarfod teirochrog yn cael ei gynnal yn y gwanwyn—byddaf yn derbyn cyngor wedyn ar y cynnydd a wnaed ym mhob sefydliad yn erbyn y meysydd hynny o ymyrraeth wedi'i thargedu, a’n dymuniad ni yw gweld bod gan bob un o'r sefydliadau hyn gynllun tymor canolig integredig llwyddiannus y gellir ei gymeradwyo pan ddaw hynny i fyny ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Dyna’r hyn yr ydym yn dymuno ei weld. Dyna pam y mae ymyrraeth wedi'i thargedu ar waith, a byddaf, wrth gwrs, yn adrodd yn ôl i Aelodau'r Cynulliad ar y cynnydd sy'n cael ei wneud neu beidio.
Rwyf wrth gwrs yn pryderu bod Caerdydd a'r Fro yn wynebu ymyrraeth wedi’i thargedu ac ni fyddwn yn dymuno gwadu bod yno broblemau. Gwn fod y bwrdd iechyd yn awyddus iawn i weithio gyda'r Llywodraeth i wella'r sefyllfa. Ond rwy’n credu bod amgylchiadau arbennig yng Nghaerdydd sy’n cael effaith ar berfformiad ariannol Caerdydd a'r Fro yn hytrach na’i berfformiad clinigol. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol mai Caerdydd yw'r ddinas sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, â’i phoblogaeth yn tyfu 10,000, rwy’n credu, bob blwyddyn. Yn amlwg mae hyn yn cael effaith enfawr ar y gwasanaeth iechyd, ac, wrth gwrs, mae’r Bwrdd Iechyd Lleol—Caerdydd a'r Fro—yn ymgymryd â’r achosion trydyddol a'r achosion cymhleth o ardal eang yng Nghymru, ac nid wyf yn gwybod faint y mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y cyllid a gaiff. Meddwl oeddwn i tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar hynny. Rwy’n meddwl hefyd ei bod yn bwysig cydnabod y gwelliannau mawr sydd wedi'u gwneud mewn perfformiad am yr union reswm o gynnig sicrwydd cyhoeddus. Felly, rwyf am wneud y pwynt bod amseroedd aros yng Nghaerdydd a'r Fro wedi gwella am saith chwarter yn olynol; bod amseroedd aros i gleifion brys yr amheuir bod canser arnynt wedi gwella 25 y cant mewn llai na blwyddyn; cafwyd gwelliannau mawr wrth drosglwyddo o ambiwlansys ac, yn benodol, mewn gofal strôc. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod yn y datganiad hwn y cyflawniadau hynny gan ein bod ni am i’r cyhoedd gael sicrwydd, ac mae'r bwrdd iechyd yn awyddus i weithio gyda'r Llywodraeth i fynd i'r afael â’r hyn sydd yn fater ariannol.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn a'r sylwadau, ac mae'n deg dweud bod gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro uchelgais a gweledigaeth gadarn. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y cynnydd sylweddol sydd wedi ei wneud a'i gynnal o ran amseroedd aros mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac, yn wir, mewn gofal canser hefyd. Mae mwy i'w wneud ond rydym yn cydnabod y cynnydd y mae'r bwrdd iechyd wedi’i wneud. O ran eich pwyntiau ehangach ar ariannu'r gwahanol heriau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ddarparu gofal iechyd mewn gwahanol rannau o Gymru, mae gan bob bwrdd iechyd ei achos ei hun i’w wneud ynghylch pam ei fod mewn sefyllfa unigryw a pham y mae angen adlewyrchu hynny yn y cyllid a gaiff, boed hynny wrth ddarparu gofal iechyd mewn lleoliad gwledig, darparu gofal iechyd i boblogaethau difreintiedig y Cymoedd, neu ddarparu gofal iechyd i ddinasoedd eraill yn y wlad sy'n tyfu'n gyflym hefyd. Rydym yn ystyried yr holl bethau hyn yn y cylch ar ddyfodol cyllid. Wrth weithio ochr yn ochr â bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, rwy’n disgwyl gweld cynnydd, ac rwy'n disgwyl ein gweld ni mewn sefyllfa lle bydd ganddynt gynllun tair blynedd wedi ei gymeradwyo ar ddiwedd y flwyddyn hon. Mae hyn yn ymwneud yn gyfangwbl â chael cynnydd yn y maes hwnnw ac nid yw’n ymwneud â thaflu o'r neilltu neu wrthod cydnabod y cynnydd gwirioneddol a wnaed ganddynt. Rwyf wedi tynnu sylw’r staff at hyn pan rwyf wedi cwrdd â nhw ar sawl achlysur, yn ogystal ag arweinyddiaeth y bwrdd iechyd hefyd.
Ac yn olaf, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, erbyn hyn mae angen rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth ar dros hanner yr holl fyrddau iechyd lleol. Mae fy mwrdd iechyd i yn derbyn ymyrraeth wedi’i thargedu oherwydd perfformiad gwael mewn gofal heb ei drefnu a gofal canser. Mae'r perfformiad gwael hwn yn rhoi bywydau pobl mewn perygl ac yn arwydd damniol o'n polisïau iechyd. Mae'n gwbl amlwg bod yna fethiannau difrifol ym maes gofal iechyd ar draws Cymru. Mae pobl Cymru yn haeddu GIG sy'n darparu'r gofal gorau posibl, ni waeth ble yr ydym yn byw na pha fwrdd iechyd sy’n ein gwasanaethu. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw'r ffordd ymlaen? A oes angen ymchwiliad annibynnol? A allwn ni ailedrych ar ein polisïau a'r ffordd yr ydym yn eu darparu? Mae'n rhaid i ni feithrin hyder yn y staff sy'n gweithio yn y GIG, ond hefyd yn y cleifion. Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau a’i sylwadau. Mae pobl yn siarad yn rheolaidd am forâl y staff o fewn y gwasanaeth a'r pryder am lefel yr hyder sydd gan aelodau’r cyhoedd yn y gwasanaeth iechyd ac, yn wir, mae’r ffordd yr ydym yn siarad am y gwasanaeth yn effeithio ar hynny. Pan fyddwch yn siarad am 'fethiannau difrifol' ar draws gofal iechyd yng Nghymru, nid yw'n syndod bod y ddadl yn cael ei chwistrellu â lefel o besimistiaeth nad yw'n adlewyrchu realiti y gofal iechyd o ansawdd uchel y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei brofi. Mae pob arolwg unigol o gleifion yn cydnabod bod pobl yn cael profiad da o ofal iechyd y rhan fwyaf o’r amser, boed yn 92 y cant neu 93 y cant, neu ffigurau eraill.
Yr her sydd gennym yw beth yr ydym ni’n ei wneud am y meysydd hynny lle nad yw hynny'n wir, a sut yr ydym yn mynd ati yn onest i wynebu a datrys y meysydd hynny. Dyna’r pethau yr ydym yn canolbwyntio arnynt. Ac o ran cael golwg ac adolygiad annibynnol ar ofal iechyd ac iechyd a gofal ar draws Cymru, wrth gwrs rydym wedi ymrwymo i gael senedd a fydd yn edrych ar ddyfodol y gwasanaeth. Rydym yn awyddus i gael sgwrs synhwyrol ac aeddfed am ddyfodol y gwasanaeth iechyd nad yw'n mynd â ni yn ôl at gyfres orffwyll o gyhuddiadau a dadleuon am yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd o fewn y GIG. Rydym yn awyddus i fod yn synhwyrol ac yn ddifrifol am y meysydd sydd angen eu gwella, sef yr hyn y mae’r mesurau ymyrraeth wedi’i thargedu yn ymwneud â nhw, ac nid ydym, fel y gwnaed y pwynt gan Julie Morgan, am gael ein rhoi mewn sefyllfa lle’r ydym yn gwrthod cydnabod y meysydd hynny o ragoriaeth sylweddol a pharhaus yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.