Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 13 Medi 2016.
Yn ystod y toriad, roeddwn i’n falch iawn o gael sesiwn hyfforddi i mi a fy staff ar ddod yn ffrindiau dementia, wedi’i arwain gan Gymdeithas Alzheimer, a chredaf ein bod ni i gyd wedi cael budd mawr o’r digwyddiad. Yn amlwg, mae sut y gallwn ni helpu pobl â dementia yn un o'r heriau mawr sy'n ein hwynebu, ac mae'n arbennig o bwysig ar gyfer gofal cymdeithasol. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed, ar ryw adeg, a fyddai'n bosibl cael dadl am ddementia a sut yr ydym yn cefnogi pobl sy'n byw gyda’r cyflwr, er mwyn iddynt allu cadw ansawdd bywyd da am gymaint o amser â phosibl?