Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 13 Medi 2016.
Diolch i Paul Davies am y cwestiwn hwnnw. Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn rhoi diweddariadau rheolaidd i'r Aelodau. Yn wir, cefais gyfarfod â chyfarwyddwr BT Cymru yr wythnos diwethaf ac roeddwn i’n falch iawn i glywed eu bod yn cyrraedd dros 90 cant o fy etholaeth i, Bro Morgannwg. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod Llywodraeth Cymru, hyd yn hyn, wedi gwario £32 miliwn ar ddarparu mynediad band eang cyflym iawn i dros 113,000 o gartrefi a busnesau, a hynny’n amlwg yn ardaloedd Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, drwy brosiect Cyflymu Cymru, a chyrhaeddwyd o leiaf 93 y cant o ardal fenter y Ddau Gleddau, a gwn y byddwch yn croesawu hyn. Mae'n bwysig cydnabod hefyd fod gennym y cynllun Allwedd Band Eang Cymru, y cynllun taleb gwibgyswllt, a bod hynny yn rhoi mynediad at fand eang cyflym i 167 o eiddo yn Sir Benfro. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hefyd y cyhoeddodd Llywodraeth y DU tua diwedd 2014 ei bod wedi dod i gytundeb sy’n rhwymo’n gyfreithiol gyda gweithredwyr rhwydwaith ffonau symudol, gan fuddsoddi cyfanswm cyfunol o £5 biliwn ar welliannau seilwaith. Felly, yn amlwg mae yna ddiweddaru—. Bydd y Gweinidog hefyd, yn ogystal â rhoi diweddariad ar eich etholaeth eich hun, hefyd yn rhoi diweddariad ar sail Cymru gyfan o ran band eang cyflym iawn, sy'n allweddol i'n seilwaith, yn amlwg.