6. 4. Datganiad: Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 13 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 4:28, 13 Medi 2016

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd cyllid am ei ddatganiad ac am ei rannu â ni o flaen llaw. Mae llawer o sôn wedi bod dros y dyddiau diwethaf—cyffro hyd yn oed, rwy’n credu, o leiaf ymhlith rhai—am natur hanesyddol y Bil hwn, a fydd, ynghyd â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a’r Mesur treth tirlenwi, fel a ddywedwyd, yn golygu y bydd Cymru’n codi peth o’i threthi am y tro cyntaf ers Dafydd ap Gruffydd, wrth gwrs, sef y gwir lyw olaf, yn 1283.

Wrth gwrs, rydym yn croesawu’r Mesur hwn ac yn ymfalchïo yn yr arwyddocâd hanesyddol hwn, ond darganfyddwn wir arwyddocâd y pwerau hyn wrth eu defnyddio—wrth eu saernïo, fel yr oedd yr Ysgrifennydd yn ei ddweud, at anghenion penodol Cymru. Felly, mae’n ddyletswydd bwysig ar y lle hwn, wrth gwrs, i sicrhau ein bod yn gwneud defnydd llawn ohonynt, a’r man cychwyn ar gyfer hynny ydy’r craffu y byddwn yn gyfrifol amdano, er mwyn dangos i bobl Cymru, a dweud y gwir, y medrant ymddiried yn y Cynulliad hwn i ddiogelu eu buddiannau pan ddaw at y mater o drethiant.

Mae hwn yn Fesur technegol iawn, ac felly rydym yn croesawu, wrth gwrs, y ffaith ein bod wedi cael Mesur drafft. Roedd hynny’n rhoi cyfle i gyrff gwahanol ar draws Cymru ymateb, ac rwy’n falch i weld bod y Llywodraeth wedi ceisio cyfuno yn y Mesur llawer o ofynion yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad. Ar y cwestiwn yma o’r balans ynddo fe rhwng yr angen, efallai, am gysondeb a sefydlogrwydd wrth symud i fframwaith Cymreig, ac wrth gwrs wedyn i greu platfform ar gyfer efallai creu polisïau sydd wedi’u creu yn benodol i ymateb i anghenion Cymru, a pholisïau radical o bryd i gilydd, mae cyfeiriad yn y datganiad i’r driniaeth o ail dai, a dyna un enghraifft o hynny, ac, wrth gwrs, mae yna ymgynghoriad yn mynd ymlaen yn Lloegr ar hyn o bryd.

Ond i ba raddau dylid sicrhau bod y Mesur yma yn rhoi digon o ryddid i Lywodraethau’r dyfodol ddefnyddio’r gallu yna i fod yn wahaniaethol—er enghraifft, edrych ar y posibilrwydd o fandiau rhanbarthol i adlewyrchu gwahaniaethau mewn marchnadoedd tai yn lleol, sydd yn gallu bod yn ffactor; yn sicr, mae’n un o’r rhesymau, siŵr o fod, dros yr awgrym yma o ran tai ‘buy to let’, yn bennaf oherwydd problemau yn Llundain? I ba raddau y gallai’r dreth yma gael ei defnyddio i gwrdd â nodau polisïau eraill, er enghraifft, adlewyrchu ansawdd tai o ran effeithlonrwydd ynni neu safon ei adeiladwaith, ac yn y blaen? Hynny, gofyn y cwestiwn ydw i: i ba raddau ydy galluogi Llywodraethau’r dyfodol, nid o reidrwydd yn meddwl ein bod ni’n mynd i weithredu hynny yn syth trwy ddeddfwriaeth eilradd, ond creu cymaint o benrhyddid trwy’r Mesur ar gyfer Llywodraethau’r dyfodol i sicrhau bod gyda ni ystod o bwerau ar gael?

O ran trafodaethau gyda’r Trysorlys, wrth gwrs mae cwestiwn y fframwaith cyllidol yn fater o bwys mawr sydd yn codi drafodaeth ehangach ar bwerau trethiannol a fydd yn cyd-redeg, wrth gwrs, gyda chraffu’r Bil hwn. Os gall yr Ysgrifennydd efallai yn ein hysbysu ni ynglŷn â ble mae’r trafodaethau hynny, byddai hynny yn fuddiol iawn, ac yn benodol os gallai fe ymateb i adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn benodol ar y Mesur yma yn edrych ar y cwestiwn a ddylid eithrio de-ddwyrain Lloegr a Llundain cyn belled ag y mae asesu'r newidiadau i’r bloc wrth amcangyfrif yr effaith ar y bloc gydag unrhyw newidiadau yn y dreth yma.

Yn fwy eang byth, a gaf i demptio’r Ysgrifennydd efallai i dir perig? Achos mae’r rhan fwyaf o’r economegwyr sy’n edrych ar y dreth yma a’r dreth stamp yn Lloegr wedi dod i’r casgliad mae’n dreth hynod, hynod aneffeithlon. A dweud y gwir, mae’n anodd iawn i’w chyfiawnhau hi. Wrth gwrs, mae yn wir hefyd bod yr ystod o drethi sydd ymwneud rhywsut ag eiddo neu dir rydym wedi’u hetifeddu—y trethi busnes a hefyd, wrth gwrs, y dreth gyngor—i gyd yn llai na foddhaol am ryw rheswm neu gilydd. A yw hi’n amser, efallai, yn ystod y tymor hwn, i ni gael ymchwiliad mwy eang mewn i’r holl gwestiwn o fframwaith trethiant tir ac eiddo i Gymru? Achos byddai hyn yn gyfle i ddod lan ag atebion Cymreig go iawn, rwy’n credu, a fyddai yn sicr yn creu fframwaith mwy buddiol i’r tymor hir.