Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 13 Medi 2016.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud, yn gyntaf oll, o ran Balchder Cymru, mae hwn yn ddigwyddiad gwych a noddir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn falch iawn o'r digwyddiad hwnnw. Mae'n denu nifer enfawr o bobl i Gaerdydd o bob cwr o Gymru a'r DU hefyd. Hoffem ei weld yn parhau ac yn tyfu. O ran ei safle ar Gaeau Cooper, rwyf eisoes wedi sôn am y mater hwn ar ôl cael llythyr gan fy nghydweithiwr yr Aelod dros Delyn, Hannah Blythyn, a nododd yn gywir, yn fy marn i, mai’r lleoliad hwnnw yw’r lleoliad gorau i gynnal y digwyddiad yn ein prifddinas. Felly, dywedais hynny wrth gyngor Caerdydd. Yn fy marn i, dylai'r digwyddiad aros ar Gaeau Cooper. Rwyf wedi cael gwybod nad oes ganddynt unrhyw fwriad i’w symud o Gaeau Cooper, ond byddwn yn annog y cyngor a'r trefnwyr i wneud yn siŵr y gallant gyrraedd canlyniad boddhaol i’w sgyrsiau—un sy'n cynnwys dyddiad sy'n gyfleus i bawb i gynnal y digwyddiad yn ystod yr haf, fel sydd wedi digwydd erioed. Mae'n ddigwyddiad gwych ac mae torf enfawr o bobl yn mynd iddo. Hoffwn ei weld yn parhau ar Gaeau Cooper, lle mae wastad wedi bod fwyaf llwyddiannus, ar yr adeg o'r flwyddyn y mae'n fwyaf llwyddiannus. Rwy'n siŵr mai’r trefnwyr yw'r bobl orau i allu dynodi pryd y dylid ei gynnal.
O ran gwariant a chost, dewch inni sôn, yn gyntaf oll, am chwaraeon yn gyffredinol. Mae’r Llywodraeth Cymru bresennol, a Llywodraethau blaenorol Cymru, wedi gwneud mwy i amddiffyn gwariant ar chwaraeon drwy Chwaraeon Cymru, ac felly drwy'r cyrff llywodraethu cenedlaethol, nag oedd yn wir ledled y DU yn ei chyfanrwydd. Ond nid dim ond dyfodol chwaraeon ffurfiol yr ydym yma i’w ystyried heddiw. Mae nifer o fathau o chwaraeon a gweithgarwch corfforol anffurfiol y mae'r Llywodraeth hon wedi’u hariannu ac yn falch i’w hariannu, fel gemau stryd, neu’r gweithgareddau corfforol hynny fel pêl droed cerdded na fyddem o reidrwydd yn ystyried ar unwaith eu bod yn chwaraeon cystadleuol neu’n chwaraeon elît, ond sy'n gwneud gwahaniaeth anhygoel i fywydau pobl, yn enwedig rhai sy’n methu symud cystal, neu’r rhai sy'n hen neu'n fregus.
O ran Gemau'r Gymanwlad, gwnaethpwyd y penderfyniad yn yr haf, ar ôl llawer o waith gan bobl oedd yng nghanol gemau Glasgow—pobl a chanddynt hygrededd aruthrol a dealltwriaeth lawn o gostau a manteision cynnal digwyddiad fel hwn. Gwnaethpwyd y penderfyniad hwnnw yn y Cabinet yn yr haf, ac yna rhoddwyd gwybod i Gemau'r Gymanwlad Cymru. Mae awdurdodau lleol wedi bod yn rhan o'n grŵp llywio drwyddi draw, ond ni allant gyfrannu at gost y gemau ar hyn o bryd. O ran Llywodraeth y DU, cawsom gadarnhad ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol y gallai ddarparu cymorth yn y meysydd hynny y mae'n gyfrifol amdanynt—fel fisâu—ond nid oedd dim arwydd o barodrwydd i wario arian i adeiladu'r cyfleusterau eu hunain sydd eu hangen ar gyfer y gemau.
Rwy’n credu mai uchelgais mwy i Gymru fyddai dylanwadu ar newid ar lefel Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad, fel bod modd nid yn unig i Gymru, ond gwledydd bach eraill y Gymanwlad gynnal y digwyddiad lle nad ydynt yn gallu ar hyn o bryd. Byddai'n wych gweld nid dim ond Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru, ond efallai Gemau'r Gymanwlad yn ynysoedd y Caribî yn digwydd, ond ar hyn o bryd nid yw hynny'n bosibl. Felly, byddaf yn gweithio gyda gwledydd eraill y Gymanwlad i ddylanwadu ar newid ar y lefel uchaf fel y byddwn ni, a’r gwledydd hynny nad ydynt wedi’u cynnal eto, yn gallu cynnig amdanynt a’u cynnal yn y dyfodol.