8. 6. Dadl ar y Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2016-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 13 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:02, 13 Medi 2016

Mae camddefnydd sylweddau yn rhywbeth sy’n gadael ei ôl ar unigolion, ac yn gadael ei ôl ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Mae’n effeithio ar iechyd y rheini sy’n camddefnyddio–neu’n waeth, wrth gwrs: mae nifer y marwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i gamddefnydd cyffuriau wedi treblu mewn 20 mlynedd. Mae yna effaith ar yr economi hefyd, wrth gwrs, o ran colled incwm i unigolion ac i fusnesau drwy absenoldeb o’r gwaith. Mae’r gost ar yr NHS yn drwm iawn yn amlwg, ond felly hefyd y gwasanaethau cymdeithasol a’r system gyfiawnder troseddol, ac mae awdurdodau lleol, drwy eu gwaith glanhau bob bore Sul os nad drwy ddim byd arall, yn cario baich ariannol hefyd.

Cyferbynnwch y gost honno efo’r rheini sy’n elwa, pa un ai’r rheini sy’n gwerthu cyffuriau yn anghyfreithlon, neu, yn fwy yn yr agored, os liciwch chi, y diwydiant diodydd, sy’n lobïo i geisio perswadio’r Llywodraeth i beidio â chymryd camau i daclo camddefnydd drwy osod lleiafswm pris ar alcohol, er enghraifft.Er bod y lobi honno wedi llwyddo i berswadio ambell blaid wleidyddol yn y Siambr yma, mae’n rhaid inni beidio â thynnu’n ffocws oddi ar yr angen i daclo camddefnydd sylweddau.

Mae sawl menter wedi bod o’r blaen gan y Llywodraeth yn y maes yma, wrth gwrs, ond mae’n rhaid inni farnu llwyddiant y rheini yn erbyn y canlyniadau, yn erbyn yr hyn a gafodd ei gyflawni. Yn anffodus, mae’r gyfradd marwolaethau o ganlyniad i gamddefnydd alcohol wedi aros yn ei hunfan am ddegawd. Mae cynnydd wedi bod yn nifer y marwolaethau oherwydd camddefnydd cyffuriau. Clywsom nifer o ffigurau yn cael eu dyfynnu gan Mark Isherwood. Mae hi’n waeth mewn rhai ardaloedd na’i gilydd. Mi fues i’n darllen erthygl yn y ‘South Wales Evening Post’ a gafodd ei chyhoeddi dros y Sul yn codi pryderon yn benodol am y sefyllfa yn y ddinas honno. Felly, mae’r ffeithiau yn dangos inni, yn sicr ar y lefel o atal marwolaethau, sy’n gorfod bod yn flaenoriaeth, fod y strategaeth flaenorol wedi methu ac felly fod angen ei diweddaru hi.

Pam yr ydym ni’n methu llwyddo i ennill tir yn y maes hwn? Mae diffyg pwerau cyflawn mewn perthynas ag alcohol yn sicr yn un rhwystr. Allwn ni ddim, yma yng Nghymru, roi cyfres o gamau yn eu lle ar y cyd, fel gosod lleiafswm prisiau, atal hysbysebu, newid y limit yfed a gyrru, er enghraifft, fel ymdrech strategol a thraws-lywodraethol i daclo’r broblem honno.

Nid yw’r arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon cadarn wrth weithredu strategaethau. Mae darpariaeth wedi amrywio gormod o ardal i ardal, yn enwedig o ran gwasanaethau preswyl, i ferched yn unig ac ati. Nid canfyddiadau Plaid Cymru yn unig ydy’r rhain—rwy’n eich atgoffa chi o hynny; dyma ganfyddiadau'r pwyllgor iechyd blaenorol hefyd. Felly, rwy’n falch iawn bod argymhellion y pwyllgor hwnnw wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, a bod yr argymhellion o leiaf wedi dylanwadu ar y cynllun newydd sydd gennym ni o’n blaenau rŵan.

Mae gen i ambell sylw a chwestiwn am y cynllun, y cyntaf yn atseinio’r hyn a glywsom ni gan Mark Isherwood. Mae’r cynllun yn cynnwys bwriad i fapio gwasanaethau camddefnydd sylweddau, ond nid yw’n sôn am wasanaethau preswyl yn benodol. A wnaiff y Gweinidog, os gwelwch yn dda, roi sicrwydd y bydd y broses mapio yn cynnwys hyn, a rhoi ymrwymiad i lenwi’r tyllau sydd yna o ran darpariaeth gwasanaethau ar hyn o bryd? Mae’r cynllun yn sôn, ac yn wir yn brolio, am wario ryw £50 miliwn y flwyddyn ar wasanaethau camddefnydd sylweddau, ond o ystyried maint y broblem a’r goblygiadau i wariant cyhoeddus mewn gwasanaethau eraill o beidio â thaclo’r broblem, a ydy’r Gweinidog wir yn meddwl bod y swm hwnnw’n ddigon i allu arwain at y lleihad mewn camddefnydd yr ydym ni gyd yn dymuno ei weld?

Er fy mod i’n croesawu bod y cynllun gweithredu yn cynnig dangosyddion i fesur llwyddiant neu fethiant, mi fuaswn i wedi dymuno gweld mwy o fanylder o ran targedau, er enghraifft. Nid oes bwriad i ddweud pa mor gyflym y dylem ni fod yn gweld pethau’n gwella. Nid oes dyddiadau yn cael eu gosod ar gyfer cyrraedd y nod, ac mi fuasem ni’n dymuno gweld targedau ac amserlenni mwy penodol, ac mi wnaf i groesawu sylwadau gan y Gweinidog ar hynny.

Yn olaf, rydym ni’n nodi bod y cynllun yn methu â chrybwyll yr angen i sicrhau bod mwy o bwerau ar gael i Lywodraeth Cymru allu datblygu cynllun mwy holistig—y diffyg pwerau y gwnes i gyfeirio ato fo yn gynharach. Lle mae yna dystiolaeth glir bod y setliad datganoli gwan sydd gennym ni yn niweidio pobl Cymru yn gorfforol felly—ac mae’r pwyllgor iechyd diwethaf yn cytuno â hyn, gyda llaw—rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu’n gryf y dylai hi fod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fod yn gwthio am y pwerau angenrheidiol—profi terfynau’r setliad presennol a thynnu sylw at y gwir gost i safon bywydau ein trigolion, yn ogystal â’r gost ariannol, o ddatganoli gwael. Mae’n werth nodi, wrth gwrs, ein bod ni’n cael y ddadl yma heddiw ddiwrnod ar ôl i Dŷ’r Cyffredin fethu â chymryd cyfle i gryfhau’r setliad yn wirioneddol sylweddol efo’r Bil Cymru newydd.

Mi oedd maniffesto Plaid Cymru yn gynharach eleni yn cynnwys ymrwymiadau sefydlu rhwydwaith o ganolfannau preswyl ar gyfer camddefnyddwyr alcohol a chyffuriau, mwy o hyfforddiant i staff NHS a lleiafswm prisio, ac mi allwch chi fod yn sicr na fuasai Plaid Cymru yn goddef setliad datganoli gwael; mi fyddwn ni wastad yn brwydro i sicrhau bod Cymru yn cael y pwerau sydd eu hangen i ddelio efo materion pwysig fel camddefnydd cyffuriau. Wrth gwrs, mi fyddwn ni—