Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 14 Medi 2016.
Ie, wel, fel y mae’r Aelod yn gwybod o’r pwyllgor y bore yma, rydym yn cael y trafodaethau hynny yn awr. Mae llawer iawn o waith a gweithgaredd wedi digwydd dros yr haf gyda’r sector ffermio, yn edrych ar yr hyn y byddwn yn ei wneud ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg, mae’r materion sy’n ymwneud â chymhorthdal yn bwysig iawn i’n diwydiant ffermio, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn eu cefnogi. Hwy, yn y bôn, yw ein cynhyrchwyr bwyd, ac mae’n hynod o bwysig i ddiogelwch ein cyflenwad bwyd ein bod yn gwneud hynny.