<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:40, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny, ond ni chlywais sicrwydd y bydd y taliadau’n parhau hyd at 2020. Pe bai hi’n gallu cadarnhau hynny, byddai’n ddefnyddiol i bawb sy’n rhan o hyn, rwy’n credu, oherwydd gallwn drafod wedyn beth fydd yn digwydd ar ôl hynny, ond o leiaf rydym yn gwybod beth sy’n digwydd yn awr.

Y cwestiwn arall roeddwn am ei ofyn iddi oedd bod rhywfaint o ddryswch gan y Prif Weinidog ddoe ynghylch mynediad i’r farchnad sengl, a allai fod drwy drefniant masnach rydd, sy’n gallu cynnwys tariffau, neu aelodaeth o’r farchnad sengl, sy’n dod, wrth gwrs, gyda rhyddid i symud. O fewn y rhyddid i symud, a yw hi’n cytuno â mi, a Chanolfan Llywodraethiant Cymru hefyd, fod gweithwyr mudol yn chwarae rhan bwysig yn yr economi wledig? Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn dweud hyn:

Nid yw gwaith ymchwil ar ymfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd i Gymru yn dangos unrhyw gynnydd cysylltiedig yn lefelau diweithdra dinasyddion y DU yn y sector, gyda mewnfudwyr yn gweithio mewn swyddi sy’n anodd eu llenwi, ac wrth gwrs, swyddi gwag tymhorol. Mae 34,000 o weithwyr a aned y tu allan i’r DU yn cael eu cyflogi yn y sector hwn. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â pharhad y gweithlu mudol pwysig hwn i amaethyddiaeth yng Nghymru, a chynhyrchiant bwyd hefyd wrth gwrs, sy’n gysylltiedig â hyn, ac onid yw’n amlwg, gan ein bod yn sôn am system sy’n seiliedig ar fisa o bosibl, neu system sy’n seiliedig ar bwyntiau, fod Cymru, o ddifrif, angen llais yn hyn, os nad ei pholisi mewnfudo ei hun?