Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch. Mae’n ddrwg gennyf, roeddwn yn meddwl eich bod wedi dweud ‘y tu hwnt i 2020’. Yn hollol; gwyddom ein bod yn cael yr arian hwnnw tan 2020. Mae gennym y sicrwydd hwnnw, ac yn bendant, dyna’r achos. Mewn perthynas â’ch cwestiwn ynglŷn â gweithwyr mudol, rwy’n credu eich bod yn hollol gywir. Mae’r sector amaethyddol, a’r sector prosesu bwyd i raddau mwy yn ôl pob tebyg, yn dibynnu ar weithwyr mudol, ac unwaith eto maent yn rhan o’n trafodaethau parhaus ynglŷn â dyfodol y sector ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ond, yn amlwg, mae’n fater pwysig iawn, a gwn fod y sector amaethyddol a’r sector bwyd yn bryderus iawn ynglŷn â sut y maent yn mynd i lenwi’r swyddi anodd a chaled hynny.