Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 14 Medi 2016.
Wel, nid yw gwneud datganiad yn yr wythnosau nesaf yn ddigon da, Ysgrifennydd y Cabinet, gan fod ffigurau’r Llywodraeth ei hun—eich ffigurau chi—yn dangos cynnydd o 37 y cant yn nifer y gwartheg a laddwyd yng Nghymru yn ystod y 12 mis hyd at fis Mai eleni, ac yn fy sir fy hun, Sir Benfro, roedd cynnydd syfrdanol o 61 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Nawr, mae’n amlwg i mi nad yw’r Llywodraeth hon na Llywodraethau Llafur olynol yn trafferthu gyda materion gwledig, o ystyried eu methiant i fynd i’r afael â’r clefyd dinistriol hwn, sy’n parhau i fod yn falltod i’n ffermwyr. Felly, a wnewch chi ymrwymo yn awr i fynd ar drywydd pecyn mwy cynhwysfawr ar gyfer ymdrin â TB buchol sy’n cynnwys dull cyfannol o ymdrin â’r clefyd hwn, ac a wnewch chi gadarnhau nad oes unrhyw opsiwn na fyddwch yn ei ystyried, gan gynnwys, o bosibl, rhaglen wedi’i rheoli ar gyfer difa moch daear, er mwyn i ni allu mynd i’r afael â’r clefyd mewn gwartheg a bywyd gwyllt?