Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 14 Medi 2016.
Yr hyn nad yw’r Aelod yn ei ddweud hefyd yw ein bod wedi gweld gostyngiad o 16 y cant yn nifer yr achosion newydd mewn buchesi, ac er nad wyf am weld cynnydd yn nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd, o ystyried y ffaith ein bod yn cynnal cymaint o brofion, nid wyf yn credu y gallwn ddisgwyl peidio â gweld cynnydd mewn gwartheg adweithiol. Rwyf eisoes wedi dweud fy mod yn ystyried pob opsiwn dros yr haf. Rwyf wedi dweud hynny droeon ers i mi ddechrau yn y swydd bedwar mis yn ôl, a byddaf yn gwneud datganiad y mis nesaf.