Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 14 Medi 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna bryderon go iawn am ddyfodol y diwydiant ffermio yng Nghymru os nad eir i’r afael â’r mater hwn yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae pryderon y bydd yn rhoi ffermwyr Cymru o dan fwy o anfantais hyd yn oed ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, sut y byddwch chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig, yn gwarantu na fydd ffermwyr Cymru yn cael eu rhoi o dan anfantais oherwydd methiant Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r clefyd hwn hyd yn hyn? Ac a wnewch chi gadarnhau ar gyfer y diwydiant heddiw y bydd y Cynulliad hwn yn mynd i’r afael â TB buchol, fel y gall ffermwyr fod yn hyderus na fyddant yn dioddef cytundebau masnach gwannach ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd?