Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 14 Medi 2016.
Mae’n bwysig iawn fod cynlluniau datblygu lleol ar waith. Mae fy swyddogion yn monitro hyn yn ofalus iawn. Llond llaw yn unig, bellach, o awdurdodau lleol sydd heb gyflwyno cynllun, ac rydym yn monitro hynny i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno o fewn yr amserlen. Yr hyn y mae cynllun mabwysiedig yn ei olygu yw y gall awdurdodau lleol a chymunedau lywio a dylanwadu’n gadarnhaol ar y dyfodol er eu budd eu hunain, yn hytrach na bod eraill yn dweud wrthynt beth i wneud, fel y dywedoch.