Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 14 Medi 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Mehefin, cefais yr anrhydedd o gael fy mhenodi yn hyrwyddwr rhywogaeth y dolffin trwynbwl gan Cyswllt Amgylchedd Cymru. Ddydd Gwener, os yw’r tywydd yn caniatáu—pwy a ŵyr—byddaf yn ymweld ag ardal gadwraeth arbennig bae Aberteifi. Fe fyddwch yn gwybod fod y bae yn gartref i boblogaethau lled-breswyl ac mae’n ardal fagu arbennig o bwysig i ddolffiniaid benywaidd a’u lloi. Felly, fy nghwestiwn i chi cyn fy ymweliad ddydd Gwener yw: pa neges a gaf ei rhoi i’r bobl sy’n pryderu ynglŷn â gwarchod y rhywogaeth eiconig a’r ardal gadwraeth arbennig i’w sicrhau, pe bai’r Llywodraeth yn penderfynu caniatáu pysgota am gregyn bylchog ymhellach i mewn i’r ardal gadwraeth arbennig honno, na fyddwn yn dychwelyd at y difrod a oedd yn amlwg yn 2010 ac a arweiniodd at leihau pysgota am gregyn bylchog yn yr ardal honno mewn gwirionedd?