Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 14 Medi 2016.
Wel, ni chefais gynnig y dolffin trwynbwl. Rwy’n edrych ar fy nghyd-Aelod, Lee Waters, rhag ofn: y draenog oedd ef. Ond rwy’n credu bod y pwynt rydych yn ei wneud yn un pwysig iawn ac mae’n ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw, ac rwy’n ymwybodol bod anawsterau wedi bod yn ôl yn 2009-10 mewn perthynas â physgota am gregyn bylchog. Rwy’n credu mai’r neges y gallwch ei rhoi yw ein bod yn ystyried pob ymateb ac rydym am gael y cydbwysedd yn iawn. Nid yw hyn yn ymwneud ag un rhywogaeth yn unig: mae’n ymwneud â phob un o’n rhywogaethau.