Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 14 Medi 2016.
Ie, rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Mae’n bwysig iawn fod ganddynt y pwerau hynny. Byddaf yn sicr yn edrych ar Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr fod ganddynt y pwerau hynny. Rwy’n ymwybodol eich bod wedi ysgrifennu ataf droeon am fusnesau yn eich etholaethau eich hun ac rwy’n gwybod ein bod wedi gohebu. Ond byddaf yn sicr yn hapus iawn i edrych ar hynny gan ei bod yn bwysig iawn, er enghraifft, fod rheoliadau asesu effeithiau amgylcheddol—. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i brosiectau gael—. Wyddoch chi, y rhai sy’n debygol iawn o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, mae’n rhaid iddynt fod yn ddarostyngedig i gydsyniad cyn y gallant fwrw ymlaen, felly mae’n bwysig iawn fod hyn yn digwydd.