<p>Effeithiau Negyddol Datblygiadau Busnes</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 1:59, 14 Medi 2016

Ysgrifennydd, rydw i wedi cael nifer o bobl yn dod ataf i yn ardal Aberafan sydd yn poeni ynghylch lleoliad tyrbinau morlyn bae Abertawe oherwydd y ffaith eu bod nhw’n credu y bydd yn effeithio ar y llif i mewn i’r môr a hefyd, wedyn, sut y bydd hynny’n effeithio ar eu gallu nhw i fod yn rhan o’r broses y maen nhw’n ei mwynhau yn yr ardal honno. A ydych chi wedi cael cyfle i edrych ar y cwyn hwnnw yn benodol ac wedi gallu trafod hynny gyda nhw er mwyn sicrhau na fyddai hynny’n digwydd pe bai’r morlyn yn mynd yn ei flaen?