<p>Amaethyddiaeth Fanwl</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:00, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu y gallai cynhyrchiant fferm gynyddu cymaint â 30 y cant drwy ddefnyddio data mawr a dadansoddeg. Mae meddylwyr blaenllaw ym maes arloesedd yn dweud mai amaethyddiaeth fanwl yw’r datblygiad pwysicaf yn y byd ffermio modern, gan annog defnydd effeithlon o adnoddau prin a lleihau’r defnydd o gemegau niweidiol. Byddwn yn annog y Gweinidog i fod yn feiddgar yn y maes hwn ac annog diwydiant newydd i Gymru. A wnaiff y Gweinidog gasglu bwrdd o arbenigwyr at ei gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth a allwn i fod ar y blaen yn y maes arloesedd pwysig hwn?