Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 14 Medi 2016.
Rwy’n credu bod cryn dipyn o waith yn digwydd yn y cefndir yn ôl pob tebyg, felly byddwn yn bendant yn ystyried gwneud hynny, ond rydych yn llygad eich lle, mae’n defnyddio data lloeren manwl, dyfeisiau synhwyro o bell, technoleg casglu data procsimol, ac mae’n galluogi pobl i wneud penderfyniadau mewn ffordd wahanol. Rwy’n credu eich bod yn gywir; mae angen i ni wneud y gorau o’r adenillion ar y mewnbwn, felly byddaf yn sicr yn ystyried hynny.