Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 14 Medi 2016.
Rwy’n credu bod gwyrddu’r amgylchedd trefol yn bwysig iawn i iechyd a lles emosiynol trigolion, ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod am y mudiad gerddi cymunedol yn Efrog Newydd. Gwelais rai o’r gerddi cymunedol yn ardal Lower East Side yn ystod y toriad ac roedd yn gwbl syfrdanol sut yr oedd pob darn bychan o dir dros ben yn cael ei ddefnyddio i dyfu llysiau, tyfu blodau, cadw gwenyn—cwbl syfrdanol, ac roeddwn i’n meddwl tybed a oedd yna ryw ffordd y gallem efelychu hynny.