Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 14 Medi 2016.
Mae cynllun Glastir—Creu Coetir yn darparu cymorth ariannol ar gyfer creu coetiroedd newydd mewn ardaloedd gwledig a threfol yng Nghymru. Mae Glastir—Adfer Coetir yn cefnogi ailblannu coetiroedd sydd wedi’u heintio gan phytophthora ramorum. Agorodd Llywodraeth Cymru gyfnod arall ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yn y ddau gynllun ar 30 Awst.