1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 14 Medi 2016.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog creu ardaloedd coediog yng Nghymru? OAQ(5)0022(ERA)
Mae cynllun Glastir—Creu Coetir yn darparu cymorth ariannol ar gyfer creu coetiroedd newydd mewn ardaloedd gwledig a threfol yng Nghymru. Mae Glastir—Adfer Coetir yn cefnogi ailblannu coetiroedd sydd wedi’u heintio gan phytophthora ramorum. Agorodd Llywodraeth Cymru gyfnod arall ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yn y ddau gynllun ar 30 Awst.
Diolch. Cefais ymateb gennych mewn llythyr ar 18 Awst ar ôl i mi ysgrifennu atoch ynglŷn â’r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd—neu ConFor—gohebiaeth ar rwystrau i greu a rheoli coetiroedd masnachol yng Nghymru, a rhai atebion. Yn eich ateb fe ddywedoch fod eich rhagflaenydd wedi ymateb i’r un ddogfen ym mis Chwefror, ac wrth gwrs, roedd wedi gwneud hynny, ond maent hwy’n dweud mai ymateb i un o’r pwyntiau yn y ddogfen yn unig a wnaeth. Ysgrifenasant yn ôl ond oherwydd prysurdeb yr etholiad ni chawsant ateb i’r ohebiaeth honno. Dywedodd ei fod wedi gofyn i’w swyddogion archwilio eu hawgrym y dylid darparu cyngor ac arweiniad clir i ymgeiswyr gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ond nid ydynt wedi clywed unrhyw beth ers hynny. Fe gyfeirioch at y cynllun gweithredu ar gyfer creu 1,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn 2020, ond mae eu haelodau wedi tynnu sylw at y rhesymau pam nad yw hyn yn debygol o lwyddo oni bai bod y rhwystrau’n cael eu datrys, ac maent yn dal i aros am ateb i’w cwestiynau i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ar ailstocio. Sut y byddwch chi, mewn ysbryd cadarnhaol—oherwydd maent hwy eisiau bod yn gadarnhaol ac yn adeiladol—yn ymgysylltu ac yn helpu i lenwi’r bylchau hynny fel bod modd bwrw ymlaen â deialog gadarnhaol er lles pawb, a’r amgylchedd naturiol yn arbennig?
Rwy’n awyddus iawn i ymgysylltu’n gadarnhaol â hwy. Mae’n ddrwg gennyf nad ydynt wedi cael ymateb dros gyfnod yr etholiad, ond byddaf yn sicr yn edrych ar hynny ar eich rhan. Nid wyf yn siŵr os oeddech yn dweud mai ein nod oedd plannu 1,000 hectar—ein nod mewn gwirionedd yw plannu 10,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn mis Mawrth 2020, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion fy sicrhau y bydd hynny’n digwydd. Mae’n peri pryder i mi glywed bod rhywfaint o bryder o du’r sector, fel y dywedwch, ond byddaf yn sicr yn edrych ar hynny a byddaf yn hapus iawn i’w cyfarfod.
Cyfarfûm yn ddiweddar â ffermwr yn fy etholaeth a oedd wedi clirio tir i greu coetir newydd o dan gynllun Glastir. Fodd bynnag, roedd yn cael problemau oherwydd bod y tir wedi ei oresgyn ers hynny gan Jac y Neidiwr, sy’n broblem ar bob rhan o dir ei fferm, ac roedd yna bosibilrwydd hefyd ei fod wedi lledaenu i lawr y bryn o un o safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allech ddweud wrthym pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â Jac y Neidiwr a rhywogaethau goresgynnol eraill yn ystod y pumed Cynulliad.
Rydym yn cefnogi gwaith rheoli ar raddfa dalgylch i fynd i’r afael â Jac y Neidiwr drwy grwpiau gweithredu lleol. Rydym hefyd wedi cefnogi gwaith i ryddhau ffwng pathogenig newydd ar bum safle ar draws Cymru gyda’r Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddorau Rhyngwladol, fel cyfrwng rheoli biolegol i fynd i’r afael â’r pla hwn.
Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o fanteision creu coetiroedd o ran bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystemau, lliniaru llifogydd, dal carbon a chymaint mwy o’n systemau naturiol pwysig ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol, ond rwy’n meddwl tybed a yw hi wedi cael amser i fyfyrio ar ei hymweliad â Choetir Ysbryd Llynfi—30 hectar o dir wedi ei adfer o hen olchfeydd Maesteg a phwll glo Coegnant, a choetir gweithredol sydd ag ymgysylltiad aruthrol gyda’r gymuned leol. Nid y coetiroedd collddail a blannwyd a’r perllannau a’r harddwch naturiol yw’r unig bethau sy’n diffinio’r coetir, ond y ffaith ei fod wedi ei leoli yn un o’r ardaloedd lle mae’r ymyriadau sydd wedi eu targedu fwyaf ym maes iechyd ac addysg a materion eraill yn digwydd. Onid yw’n iawn fod cynllun gweithredu coetiroedd, ynghyd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn golygu bod angen i ni weld y coed cywir yn y mannau cywir, ac mae hynny’n golygu eu plannu yn agos at gymunedau fel hyn?
Ydy, yn hollol. Mwynheais fy ymweliad yn fawr iawn, er gwaethaf y glaw trwm ar y diwrnod hwnnw ym mis Awst. Yr hyn a oedd yn fy nharo am y cynllun oedd yr holl weithio mewn partneriaeth yn y gymuned, o’r sefydliadau amgylcheddol i’r ysgolion a phobl leol yn galw draw i helpu. Roedd gweld y miloedd o goed a blannwyd ganddynt yn wirioneddol wych.