Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 14 Medi 2016.
Cyfarfûm yn ddiweddar â ffermwr yn fy etholaeth a oedd wedi clirio tir i greu coetir newydd o dan gynllun Glastir. Fodd bynnag, roedd yn cael problemau oherwydd bod y tir wedi ei oresgyn ers hynny gan Jac y Neidiwr, sy’n broblem ar bob rhan o dir ei fferm, ac roedd yna bosibilrwydd hefyd ei fod wedi lledaenu i lawr y bryn o un o safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allech ddweud wrthym pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â Jac y Neidiwr a rhywogaethau goresgynnol eraill yn ystod y pumed Cynulliad.