Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 14 Medi 2016.
Roeddwn yn falch iawn o glywed bod Halen Môn, sydd wrth gwrs yn destun gwarchodaeth Ewropeaidd, yn un o’r pum cynnyrch Cymreig diwethaf i’r Ysgrifennydd Cabinet eu prynu. Rwyf wedi bod yn trafod efo Halen Môn, yn digwydd bod, y syniad yma rydw i wedi bod yn ceisio cael cefnogaeth iddo o datblygu parc cynhyrchu bwyd ar Ynys Môn. Rydw i’n bryderus iawn am beth sy’n mynd i fod yn digwydd i’r RDP yn y blynyddoedd i ddod. Mi fues i’n cynnal trafodaethau efo rhagflaenydd y Gweinidog ynglŷn â’r posibilrwydd—efallai drwy arian RDP, ac yn sicr, bron, drwy ddefnydd o arian Ewropeaidd—o sefydlu parc cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn iddi hi a’i swyddogion am ymateb yn bositif i’r syniad yna. Mi fuaswn i’n gwerthfawrogi cadarnhad bod y Llywodraeth, o dan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd, yn parhau i gefnogi’r syniad hwnnw mewn egwyddor ac yn barod i’w drafod ymhellach. A wnaiff yr Ysgrifennydd wneud sylw am beryglon Brexit i’r cyfleon i fwrw ymlaen efo cynllun o’r fath, a sut i oresgyn hynny, gan gynnwys, wrth gwrs, y posibilrwydd o symud ymlaen yn gyflym iawn efo'r fath gynllun?