Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 14 Medi 2016.
Roeddwn yn falch iawn o ymweld â Halen Môn dros yr haf; llwyddais i gynaeafu ychydig o halen môr fy hun mewn rhwyd wallt ddeniadol iawn, ond roedd yn wych gweld cwmni mor ardderchog, ac mae’r perchnogion mor llawn o egni. Unwaith eto, hwy oedd yn dweud wrthyf pa mor bwysig yw’r statws bwyd gwarchodedig iddynt hwy. Rwy’n hapus iawn i barhau i gefnogi’r cysyniad y cyfeiriwch ato. Mae’r penderfyniad i adael yr UE wedi creu llawer o heriau. Fel y gwyddoch, mae’n ddyddiau cynnar iawn, ond yr hyn y mae angen i ni ganolbwyntio arno yw’r cyfleoedd y bydd gadael yr UE yn eu creu hefyd, ac efallai y gallem gael trafodaethau pellach yn yr un math o gyd-destun mewn perthynas â’ch syniad am barc cynhyrchu bwyd.