<p>Cefnogaeth i’r Diwydiant Bwyd a Diod </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:15, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r ffyrdd y gellir cefnogi’r diwydiant bwyd a diod, yn enwedig y sector cig coch, yw drwy’r ardoll hyrwyddo sy’n cael ei rhoi ar dda byw wrth eu prosesu. Nawr, mae llawer o Ysgrifenyddion a Gweinidogion Cabinet, ynghyd ag Ysgrifenyddion a Gweinidogion Cabinet eraill o bob cwr o’r DU, wedi ceisio mynd i’r afael â’r ardoll hyrwyddo, gan ei bod yn cael ei chodi ar adeg y lladd, ac mae llawer o’r da byw yng Nghymru yn mynd i Loegr i gael eu prosesu. Mae yna ewyllys a chyd-ddealltwriaeth, fel rwy’n deall, i adolygu’r rheoliadau ynglŷn â hyn. A ydych wedi cael cyfle i ymgyfarwyddo â thrafodaethau’r gorffennol ac yn wir, i drafod gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig sut y gallai’r ardoll ddychwelyd i Gymru lle mae llawer o’r da byw yn cael eu pesgi ar eu ffurf byw ond nid eu prosesu ar gyfer y farchnad?