<p>Ardaloedd Adfywio Strategol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:18, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, a gaf fi ymuno â’r Aelod dros Orllewin De Cymru, oherwydd roeddwn innau hefyd am holi’r cwestiwn ynglŷn â sicrhau bod y prosiect Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, prosiect a welwn yn cyflawni canlyniadau rhagorol mewn gwirionedd ym Mhort Talbot, gydag ystad ddiwydiannol y Parc Gwyrdd yn cael ei thrawsnewid yn ardal werdd hyfryd a thai cymdeithasol, adfywio hen orsaf y frigâd dân, a chanolfan drafnidiaeth Port Talbot yn yr orsaf drenau—mae pob un ohonynt yn dwyn ffrwyth, yn dawel bach, ac yn gweld newid, ond mae angen i ni weld y newid hwnnw y tu hwnt i’r prif drefi yn yr ardaloedd. Felly, rwyf am eich annog, fel y gwnaeth Bethan, i ystyried ymestyn y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid y tu hwnt i’r prif drefi i gymunedau allanol er mwyn iddynt hwy allu elwa. Rwy’n deall eich bod wedi nodi mai mater ar gyfer yr awdurdodau lleol yw hynny, ond efallai y gellid rhoi canllawiau a meini prawf i awdurdodau lleol er mwyn mynegi’r safbwynt hwnnw, oherwydd, fel rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno, mae hwn yn gynllun gwych ar gyfer adfywio canol trefi ac ardaloedd sydd wedi cael eu hesgeuluso ers tro, ond mae’r ardaloedd hynny hefyd yn y Cymoedd.