Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 14 Medi 2016.
Rwy’n ddiolchgar iawn am sylwadau a chwestiwn yr Aelod. Rwy’n falch o glywed am y cynnydd cadarnhaol sy’n cael ei wneud mewn llefydd fel Port Talbot, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith pan fyddaf yn ymweld â Phort Talbot ddiwedd y mis. Rydym yn darparu £11.5 miliwn i gefnogi rhaglen amrywiol, ac mae’r prosiectau a grybwyllwyd gennych yn sicr yn cyfrannu at adfywio’r dref. Wrth gwrs, fel y dywedais yn gynharach, mae’r awdurdodau lleol yn cael pentyrrau o gyfarwyddyd; nid ydynt byth yn gofyn am ragor, ar wahân i ofyn am ragor o arian, yn gyffredinol, ond gallaf eich sicrhau ein bod yn cymryd y cynigion gan awdurdodau lleol yn ofalus iawn ac yn eu hystyried wrth i ni feddwl am ardaloedd adfywio strategol, neu fel y mae yn awr, y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.