<p>Ardaloedd Adfywio Strategol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:20, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yng ngogledd Cymru, yn wir, y gwelwyd un o lwyddiannau dull y weinyddiaeth flaenorol o adfywio, ym Mae Colwyn, lle rydym wedi gweld adfywiad y dref honno. Ond wrth gwrs, mae llawer o drefi glan môr eraill o gwmpas Cymru a allai elwa o ddull adfywio strategol. A wnewch chi ystyried ein cynnig polisi yn etholiadau diweddar y Cynulliad ar gyfer menter trefi glan môr ledled Cymru, fel y gall cyrchfannau glan môr gwych ledled Cymru sydd wedi cael trafferthion yn ystod y degawdau diwethaf ymadfywio, yn yr un modd ag y mae Bae Colwyn wedi ei wneud?