<p>Ymgysylltiad Cymunedol Effeithiol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:21, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rwy’n credu’n gryf mewn ymgysylltiad cymunedol effeithiol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau lleol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu fod cyrff cyhoeddus yn dangos cydweithrediad ac ymwneud wrth gyflwyno’r nodau llesiant. Mae’n rhaid cynnwys cymunedau mewn llywodraeth leol a sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed a’u bod yn dylanwadu ar y modd y caiff gwasanaethau lleol eu darparu.