Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 14 Medi 2016.
Rwy’n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt diddorol iawn. A bydd yr Aelod yn ymwybodol o’i chyd-Aelodau yn y Llywodraeth hefyd yn hyrwyddo ac yn gwario peth o’r arian Ewropeaidd ledled Cymru dros nifer o flynyddoedd yn flaenorol.
I mi, a’r pwynt pwysig roedd yr Aelod yn ceisio ei wneud, rwy’n credu, oedd na ddylem godi ofn ar bobl o ran yr hyn sy’n mynd i ddigwydd—dylem fod yn cynnig gobaith a chyfleoedd iddynt. A’r hyn rwy’n ceisio ei wneud yn yr adran hon, mewn perthynas â dwy thema rwy’n eu gwthio’n galed iawn—. Mae un yn ymwneud â chadernid economaidd i gymuned, ac mae’r llall yn ymwneud â lles—lles y gymuned, lles yr unigolyn neu’r gymuned ehangach. Os gallwn gael y ddau beth hwnnw’n iawn, rwy’n credu y gallwn ddechrau tynnu pobl allan o dlodi. A chyfarfûm ag un o’r sefydliadau y bore yma, Sefydliad Bevan, i siarad am rai o’r materion sydd gennym mewn golwg ar gyfer newid ein strategaeth tlodi wrth i ni symud ymlaen.