Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch am hynny, ond rwy’n credu bod angen i ni gydnabod hefyd nad yw rhai o leiaf o’r biliynau hynny wedi cyflawni’r nod a fwriadwyd ar eu cyfer, ac rwy’n credu bod angen i ni fod yn agored am y ffaith honno. Mae’n sicr yn wir fod cyllid ar gyfer rhaglenni gwrthdlodi mewn perygl, a dylid gwneud cynlluniau wrth gefn, fel rydych wedi nodi, i ddod yn fwy cadarn.
Ond mae’n rhaid i ni dderbyn hefyd y gallai’r atebion gynnwys y nesaf peth i ddim costau er mwyn gwneud arbedion yn y tymor hir. Er enghraifft, rydym wedi ceisio deddfu ar wahardd contractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol, pleidleisiodd eich Llywodraeth yn erbyn ymdrechion i ddiddymu angen blaenoriaethol fesul cam, a rhoi diwedd ar y prawf Pereira yn y system ddigartrefedd fel bod gan bawb hawl i dŷ. Felly, gallwch weld sut y gallem wneud hyn heb orfod pwmpio miliynau o bunnoedd eto i mewn i hynny. Sut rydych chi’n edrych ar fathau newydd o fentrau, o ganlyniad i’r bleidlais hon, a sut y byddwch chi wedyn yn ceisio eu gweithredu fel Llywodraeth?